Unwaith bod eich deunyddiau etholiad wedi'u cynhyrchu, bydd angen i chi sicrhau bod eich holl ddeunyddiau wedi cael eu hargraffu, eu casglu ynghyd a'u paratoi ar gyfer eu hanfon at etholwyr, neu eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, heb unrhyw wallau.
Gwirio pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi cyn eu hanfon
Wrth gynnal gwiriadau sicrhau ansawdd ar becynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi, dylai hyn gynnwys gwirio'r canlynol:
bod rhifau'r papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'w gilydd,
bod enwau/cyfeiriadau wedi'u personoli yn ymddangos yn unol â'r disgwyl mewn ffenestri,
bod pob pecyn yn cynnwys yr eitemau cywir – er enghraifft, bod y papurau pleidleisio cywir a'r amlen ateb gywir wedi cael eu cynnwys
Dylech gynnal hapwiriadau o'r holl becynnau er mwyn sicrhau bod trawstoriad cynrychioliadol wedi cael ei wirio, gydag o leiaf ddau becyn o bob swp o 250 o becynnau (sy'n cyfateb yn fras i ‘fasged’ Post Brenhinol lawn).
Dylech hefyd sicrhau y cynhelir gwiriadau penodol o unrhyw gyfresi sy'n cynnwys eitemau ychwanegol, er enghraifft lle y bydd is-etholiad yn golygu y caiff papur pleidleisio ychwanegol ei gynnwys.
Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cadw llwybr archwilio clir o'r gwaith prawfddarllen a'r prosesau sicrhau ansawdd eraill a ddilynwyd naill ai gan eich staff neu gan eich cyflenwr, fel y gallwch gyfeirio'n ôl ato os bydd unrhyw beth yn codi wedyn.
Pan fyddwch yn cael y llyfrau papurau pleidleisio wedi'u hargraffu, dylech gynnal gwiriad terfynol cyn i unrhyw bapurau pleidleisio gael eu dosbarthu i orsaf bleidleisio.
Wrth gynnal gwiriadau sicrhau ansawdd terfynol o'r llyfrau papurau pleidleisio, dylech wirio'r canlynol:
bod y papur pleidleisio cyntaf a'r un olaf o leiaf ym mhob llyfr a thrwy gadarnhau bod rhifau papurau pleidleisio ym mhob llyfr neu becyn yn rhedeg yn olynol
bod yr holl fanylion ar y papur pleidleisio wedi'u sillafu'n gywir
bod pob arwyddlun y gofynnwyd yn ddilys amdano wedi ei gynnwys wrth ymyl enw'r ymgeisydd cywir a'i fod yn cyfateb i gofnod y blaid yng nghofrestr y Comisiwn
bod pob disgrifiad o ymgeisydd wedi cael ei argraffu yn y llinell ar gyfer yr ymgeisydd cywir
bod y cyfarwyddiadau pleidleisio ar frig y papur pleidleisio yn cyfateb i'r gofynion deddfwriaethol
bod y papurau pleidleisio wedi cael eu torri i'r maint cywir