Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Os na fydd y cyfrif papurau pleidleisio yn gyson

Os na fydd cyfrif papurau pleidleisio yn gyson, dylech ddilyn y weithdrefn a amlinellir yn y tabl canlynol a dogfennu'r canlyniad ar y datganiad dilysu priodol:

Cam Cam gweithredu i'w gymryd
Gwiriadau rhagarweiniol    
  • Gwiriwch y rhifyddeg ar y cyfrif papurau pleidleisio yn llawn ynghyd â nifer y papurau pleidleisio heb eu defnyddio  
  • Edrychwch ar y pecynnau eraill o ddeunyddiau a ddychwelwyd ac unrhyw gofnodlyfr gan yr orsaf bleidleisio er mwyn ceisio nodi unrhyw reswm dros bapurau pleidleisio coll neu ychwanegol
  • Sicrhewch nad yw'r papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd wedi cael eu hychwanegu at nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr orsaf bleidleisio
  • Dylech ystyried cysylltu â'r Swyddog Llywyddu a gofyn iddo/iddi geisio esbonio unrhyw anghysondebau  
Gwirio nifer y blychau pleidleisio a ddosbarthwyd
  • Edrychwch ar y cofnod o flychau pleidleisio a ddosbarthwyd i weld a gafodd mwy nag un blwch pleidleisio ei ddosbarthu i'r orsaf bleidleisio a sicrhewch fod yr holl flychau a ddyrannwyd i'r orsaf yn cael eu hagor ac y cyfrifir amdanynt
Chwilio am wallau cywiriol
  • Gwiriwch y blychau pleidleisio ar gyfer yr holl orsafoedd pleidleisio yn yr un man pleidleisio
  • Efallai y bydd y broses o ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio eraill yn y lleoliad hwnnw yn dangos gwall cywiriol am fod etholwyr wedi gosod eu papur pleidleisio yn y blwch ‘anghywir’ neu mewn blwch o'r orsaf bleidleisio anghywir  
  • Os bydd y gwallau cywiriol yn gwrthbwyso ei gilydd, gellir tybio bod y broses ddilysu wedi bod yn llwyddiannus 
Ailgyfrif y papurau pleidleisio    
  • Os daw'r blwch pleidleisio o un orsaf bleidleisio, neu os nad oes unrhyw wall cywiriol yn ffigurau'r orsaf bleidleisio arall/gorsafoedd pleidleisio eraill yn y man pleidleisio hwnnw, ail-gyfrifwch y papurau pleidleisio yn y blwch o leiaf ddwywaith eto, neu hyd nes bod yr un ffigur yn cael ei gyfrif ar ddau achlysur yn olynol
Ailddilysu'r cyfansymiau
  • Os bydd unrhyw anghysondeb o hyd, ar ôl dilyn y gweithdrefnau a amlinellir uchod, defnyddiwch nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a ail-gyfrifwyd gan y staff cyfrif fel y ffigur a ddilyswyd a gwnewch nodyn priodol ar y cyfrif papurau pleidleisio
Cadarnhau unrhyw amrywiad yn eich cofnodion 
  • Ychwanegwch y cyfanswm a ddilyswyd a'r amrywiad rhwng hwnnw a'r nifer ar y cyfrif papurau pleidleisio at y datganiad am ganlyniad y broses ddilysu, gan esbonio pam bod yr amrywiad hwnnw wedi digwydd os oes modd, a thrafodwch hyn ag unrhyw asiantiaid ac arsylwyr sy'n bresennol

    
Rydym wedi llunio rhestr wirio o'r camau i'w cymryd wrth ddelio ag amrywiadau mewn blychau pleidleisio.  

Rhestr wirio wrth ddelio ag amrywiadau mewn blychau pleidleisio (DOC)

Cyfuno

Gwiriwch y blychau pleidleisio ar gyfer pob math o etholiad yn yr holl orsafoedd pleidleisio yn yr un man pleidleisio. Efallai y bydd y broses o ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio eraill yn y lleoliad hwnnw yn dangos gwall cywiriol am fod etholwyr wedi gosod eu papur pleidleisio yn y blwch ‘anghywir’ neu mewn blwch o'r orsaf bleidleisio anghywir.

Os bydd y gwallau cywiriol yn gwrthbwyso ei gilydd, gellir tybio bod y broses ddilysu wedi bod yn llwyddiannus. Lle bynnag y bo modd, dylech ddilysu'r holl flychau o'r un lleoliad pleidleisio ar yr un pryd ar fyrddau cyfagos, neu'n syth ar ôl ei gilydd. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023