Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau eraill

Mae derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau o orsafoedd pleidleisio mewn ffordd gywir a threfnus yn elfen allweddol o broses ddilysu gywir. Bydd angen i chi benderfynu ar y trefniadau mwyaf effeithiol ar gyfer derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau eraill.  

Bydd gwneud tybiaethau ynglŷn ag amseroedd cludo blychau pleidleisio yn eich helpu i sicrhau'r canlynol:  

  • y gall staff sy'n derbyn blychau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio hysbysu Swyddogion Canlyniadau os bydd unrhyw flwch/blychau yn hwyr oherwydd gall hyn awgrymu bod problem i Swyddog Llywyddu unigol neu broblem ehangach sy'n effeithio ar nifer o Swyddogion Llywyddu  
  • bod eich amseriadau amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau'r cam dilysu wedi'u llywio gan eich amseriad amcangyfrifedig o bryd y mae'r blychau pleidleisio olaf ar gyfer y bleidlais yn debygol o gyrraedd

Dylech allu amcangyfrif pryd y disgwylir i bob blwch pleidleisio gyrraedd y lleoliad dilysu, gan gydnabod hefyd y gallai oedi ddigwydd o ganlyniad i giwiau posibl yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, neu ffactorau eraill megis tywydd garw ac ati. Bydd eich gwaith yn dadansoddi etholiadau blaenorol yn cynnig gwybodaeth werthfawr i helpu ac mae llawer o wefannau ac apiau hefyd a fydd yn cyfrifo'r amser a gymerir i deithio rhwng gorsaf bleidleisio a'r lleoliad dilysu. 

Gallwch hefyd gyfrifo'r amser cyfartalog y bydd Swyddog Llywyddu yn ei gymryd i gwblhau'r ffurflenni perthnasol a phecynnu deunyddiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio drwy ystyried profiadau mewn etholiadau blaenorol neu drwy gynnal ymarfer i amseru'r broses yn ymarferol. 

Bydd angen i chi sicrhau y gall Swyddogion Llywyddu gael blychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu yn ddiogel ac yn effeithlon fel y gellir dechrau'r prosesau dilysu a chyfrif cyn gynted â phosibl. Bydd angen i chi ystyried daearyddiaeth a chysylltiadau trafnidiaeth yr ardal etholiadol a nodweddion penodol y lleoliad a ddewisir (er enghraifft, lleoedd parcio, ffyrdd mynediad ac ati). 

Defnyddio mannau casglu

Un opsiwn posibl fyddai cael deunyddiau gorsafoedd pleidleisio gan Swyddogion Llywyddu mewn un lleoliad neu fwy (‘mannau casglu’) a chludo'r deunyddiau mewn swmp i'r lleoliad dilysu. Bydd angen i chi benderfynu a fydd defnyddio mannau casglu yn cyflymu'r broses gyffredinol o gludo deunyddiau gorsafoedd pleidleisio i'r lleoliad dilysu.

Os byddwch yn defnyddio'r dull hwn, bydd angen i chi roi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau bod blychau pleidleisio a deunyddiau o orsafoedd pleidleisio yn cael eu derbyn yn y mannau casglu yn gywir ac yn drefnus. Os yw'n bosibl, dylai'r staff sy'n derbyn y blychau pleidleisio fwrw golwg yn fras dros y cyfrifon papurau pleidleisio, gan gynnwys y fathemateg sylfaenol, cyn y caniateir i'r Swyddogion Llywyddu adael. Yna byddai angen i'r blychau pleidleisio a'r deunyddiau eraill o'r gorsafoedd pleidleisio gael eu cludo'n ddiogel i'r lleoliad dilysu. Gweler sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill i gael canllawiau pellach ar hyn. 

Os byddwch yn penderfynu defnyddio mannau casglu, byddai'n ddoeth gwneud gwiriad pellach er mwyn sicrhau bod popeth a gludwyd i'r mannau casglu gan Swyddogion Llywyddu wedi cael eu derbyn yn y lleoliad dilysu a chyfrif hefyd. Bydd angen i chi gynnwys yr amser y byddai'n ei gymryd i gwblhau'r gwiriadau hyn wrth gyfrifo effeithlonrwydd posibl defnyddio mannau casglu a phwyso a mesur y ffactorau hyn wrth wneud unrhyw benderfyniad.

Nifer y blychau pleidleisio

Bydd angen i chi gynllunio ar gyfer nifer y blychau pleidleisio y byddwch yn eu derbyn yn y lleoliad dilysu a chyfrif. Caiff hyn ei bennu gan eich cyfrifiad o nifer y papurau pleidleisio y gellir eu rhoi mewn blwch pleidleisio gan ddibynnu ar faint y papur pleidleisio neu'r papurau pleidleisio ac felly sawl blwch pleidleisio a gyflenwir i orsafoedd pleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein hadran ar gyfarpar a deunyddiau i'w darparu i'r orsaf bleidleisio.

Cyfuno

Os bydd rheolau'r etholiad perthnasol yn caniatáu, bydd angen i chi benderfynu a ddylid defnyddio un blwch pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio neu flychau pleidleisio ar wahân ar gyfer pob etholiad. Bydd defnyddio un blwch yn golygu y bydd angen i'r papurau pleidleisio amrywiol ar gyfer yr etholiadau gwahanol gael eu didoli yn ystod y broses ddilysu. Os defnyddir blychau ar wahân, bydd y papurau pleidleisio eisoes wedi'u gwahanu pan fyddant yn cyrraedd y lleoliad dilysu, heblaw am unrhyw bapurau a fydd wedi cael eu postio yn y blwch ‘anghywir’ mewn gorsafoedd pleidleisio drwy gamgymeriad. Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod y naill ddull na'r llall yn arwain at broses ddilysu sy'n llawer cynt, ond efallai y byddwch am gynnal ymarfer i brofi hyn yn lleol er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer unrhyw benderfyniad.

Fodd bynnag, mae rhai manteision eraill i ddefnyddio un blwch, er enghraifft:

  • gall fod yn symlach i'r pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio
  • bydd llai o waith rheoli i'r staff yn yr orsaf bleidleisio
  • gall olygu y bydd llai o flychau pleidleisio yn cael eu cludo i'r lleoliad dilysu
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023