Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Y broses ddilysu

Mae dilysu'r papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd, nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd yn ofyniad cyfreithiol, ac mae'n ganolog i'r broses o ddatgan canlyniad cywir.1

Rhaid i chi ddilysu pob cyfrif papurau pleidleisio a pharatoi datganiad am ganlyniad y broses ddilysu.2 Mae hwn yn gofnod o nifer y papurau pleidleisio a ddisgwyliwyd a nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, ynghyd ag esboniad o unrhyw amrywiadau.

Caiff unrhyw asiant wneud copi o'r datganiad, a dylech sicrhau bod copïau ar gael i'r asiantiaid sy'n bresennol ar ôl i'r broses ddilysu gael ei chwblhau.3 Mae'r datganiad dilysu yn adnodd cyfathrebu allweddol a fydd yn helpu i sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid yn hyderus bod y prosesau dilysu a chyfrif yn dryloyw ac y byddant yn arwain at ganlyniad cywir.

Fel gyda phob agwedd ar y broses ddilysu a chyfrif, mae tryloywder yn allweddol a dylai'r broses a ddilynwyd fod yn glir i bawb sy'n bresennol.

Disgrifir camau allweddol y broses ddilysu yn y tabl canlynol:

Cam Cam gweithredu i'w gymryd
Agor y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio
  • Rhaid i staff agor y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio a chadarnhau nifer y papurau pleidleisio nas dosbarthwyd drwy nodi nifer y llyfrau a nifer y papurau pleidleisio sy'n weddill mewn unrhyw lyfr rhannol o bapurau pleidleisio y tu mewn i'r pecyn  
  • Rhaid i'r pecynnau o bapurau pleidleisio a ddifethwyd gael eu hagor hefyd a'u cyfrif
  • Rhaid i'r papurau pleidleisio heb eu defnyddio a'r papurau pleidleisio a ddifethwyd gael eu hailselio ar ôl iddynt gael eu cyfrif4  
Agor y blychau pleidleisio
  • Rhaid i'r staff dorri'r seliau ac agor y blychau pleidleisio ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid cyfrif ac arsylwyr sy'n bresennol.5  Os nad oes ymgeiswyr nac asiantiaid yn bresennol, nid oes rhaid i chi aros iddynt gyrraedd er mwyn torri'r seliau  
  • Pan fydd asiant wedi atodi sêl i flwch ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, dylid cymryd gofal mawr i ddangos i unrhyw asiantiaid ac arsylwyr sy'n bresennol bod y sêl hon heb ei thorri cyn iddi gael ei thorri 
  • Dylid arllwys y papurau pleidleisio yn ofalus ar y bwrdd, gan sicrhau nad oes yr un wedi syrthio i'r llawr a bod y blwch yn wag6   
  • Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i sicrhau bod y papurau pleidleisio yn wynebu am i fyny drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif7  
  • Dylech ddangos y blwch gwag i'r asiantiaid a'r arsylwyr fel y gallant fod yn fodlon bod y blwch yn wirioneddol wag

Trefnu'r papurau pleidleisio

  • Yna dylai'r cynorthwywyr cyfrif agor y papurau pleidleisio a'u cyfrif yn fwndeli
  • Mae cywirdeb ar y cam hwn yn hollbwysig, felly dylai'r bwndeli gael eu trosglwyddo i gynorthwyydd arall i'w hailgyfrif  
  • Dylai unrhyw bapurau pleidleisio a gyflwynwyd a roddwyd yn y blwch pleidleisio ar gam yn ystod y dydd gael eu tynnu oddi yno a'u rhoi i'r goruchwyliwr
Cysoni'r papurau
  • Rhaid i'r cyfansymiau a roddwyd ar y cyfrif papurau pleidleisio gael eu cymharu â nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac y cofnodwyd eu bod yn bresennol y tu mewn i'r blwch pleidleisio  
  • Rhaid i chi gymharu'r papurau pleidleisio heb eu defnyddio a'r papurau pleidleisio a ddifethwyd, yn ogystal â'r rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd, â'r ffigurau ar bob cyfrif papurau pleidleisio  
  • Dylai cyfanswm nifer y papurau pleidleisio yn y blwch pleidleisio fod yn gyson â'r cyfanswm ar y cyfrif papurau pleidleisio, ac yn gyson â chyfanswm nifer y papurau pleidleisio heb eu defnyddio8

Prosesau croeswirio

Mae'n hawdd gwneud camgymeriadau rhifyddol neu drawsosod, yn enwedig pan fydd pobl yn flinedig. Felly, mae angen i chi roi prosesau ar waith i liniaru'r risg hon, megis sicrhau bod mwy nag un person yn gwirio'r ffigurau a gofnodir a phob cyfrifiad. 

Caiff y papurau pleidleisio eu gosod mewn bwndeli ar gamau amrywiol o'r broses ddilysu ac mae'n bwysig bod gweithdrefnau ar waith i gadarnhau bod y bwndeli'n cynnwys y nifer cywir o bapurau pleidleisio ac, ar y cam cyfrif, nad ydynt yn cynnwys mwy o bleidleisiau na'r uchafswm a ganiateir. Bydd hyn yn hollbwysig i gywirdeb y prosesau dilysu a chyfrif.

Dylech hysbysu staff am hyn yn ystod sesiynau briffio/hyfforddi a dylai uwch-aelodau o staff gadw hyn mewn cof ar bob adeg ac ymyrryd ar unwaith os na fydd hyn yn digwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023