Dylai staff y cyfrif gyrraedd ar yr amseroedd y cytunwyd arnynt gennych chi a dylent sicrhau bod deunydd ysgrifennu ac offer y cyfrif yn bresennol, gan ddefnyddio ein rhestr wirio. Dylech sicrhau bod enwau'r staff yn cael eu cofnodi wrth gyrraedd a'ch bod yn eu briffio yn ôl yr angen er mwyn sicrhau bod y broses gyfrif yn mynd rhagddi'n ddidrafferth.
Rhaid eich bod wedi cymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac o fewn pedair awr ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau. Nid yw'r ffaith y gall fod pleidleiswyr yn aros mewn ciw i fwrw eu pleidlais yn newid y ffaith y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10pm o hyd. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ddechrau'r broses gyfrif erbyn 2am, hyd yn oed os bydd pleidleiswyr yn aros mewn ciw am 10pm1
.
Mewn etholiadau unigol, nid oes raid i chi aros nes eich bod wedi cwblhau'r broses ddilysu cyn y gallwch ddechrau cyfrif y pleidleisiau2
.
Beth i'w wneud os na allwch ddechrau cyfrif y pleidleisiau o fewn pedair awr ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau
Os na fyddwch yn dechrau cyfrif y pleidleisiau o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio, rhaid i chi gyhoeddi a chyflwyno datganiad i'r Comisiwn yn nodi faint o'r gloch y dechreuodd y broses gyfrif, y camau y gwnaethoch eu cymryd i gydymffurfio â'r ddyletswydd a'r rhesymau pam nad oedd y broses o gyfrif y pleidleisiau wedi dechrau erbyn 2am. Rhaid i chi gyhoeddi'r datganiad hefyd, a ddylai gynnwys ei ddarparu ar wefan yr awdurdod lleol.3
Mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnod o'r holl gamau a gymerwyd er mwyn darparu trywydd archwilio sy'n dangos eich proses benderfynu. Os byddwch o'r farn eich bod wedi cymryd pob cam rhesymol ac nad yw cam pellach yn rhesymol, dylech gadw cofnod o'ch proses ystyried a pham eich bod wedi penderfynu na fyddai'n rhesymol. Dylech allu esbonio eich penderfyniadau, a dylech fod yn barod i wneud hynny mewn ymateb i ymholiadau. Dylai'r datganiad gynnwys y canlynol:
enw'r etholaeth
enw'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
y dyddiad a'r amser (ar ffurf 24 awr, e.e. 03:45) y dechreuwyd cyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar y papurau pleidleisio
disgrifiad o'r camau a gymerwyd i sicrhau bod y pleidleisiau wedi dechrau cael eu cyfrif o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio
Esboniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) pam na wnaeth y broses o gyfrif y pleidleisiau ddechrau am 2am
Dylech anfon datganiadau at dîm lleol y Comisiwn, dros e-bost yn ddelfrydol, a rhaid eu hanfon o fewn 30 diwrnod calendr i ddatgan y canlyniad.
Mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i ni gyhoeddi ein hadroddiad statudol ar yr etholiad a rhestr o'r holl etholaethau lle na ddechreuodd y broses gyfrif o fewn yr amserlen a bennwyd.
2. Paragraff 22 (1AB) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Etholiadau) (Cymru a Lloegr) 2004 (“Rheolau Cyfuno Etholiadau”)↩ Back to content at footnote 2