Gwrthwynebu ar sail y ffaith bod ymgeisydd yn y carchar am flwyddyn neu fwy
Os ymddengys i chi y gall ymgeisydd fod wedi'i anghymhwyso rhag sefyll etholiad o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 (h.y. am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy), rhaid i chi gyhoeddi drafft o'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd sy'n dangos pobl sydd wedi'u henwebu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r enwebiadau gau.
Rhaid i'r datganiad drafft gynnwys y canlynol:
y pennawd ‘datganiad drafft ynghylch y personau a enwebwyd’
hysbysiad sy'n nodi y caiff unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu enwebiad ymgeisydd ar y sail ei fod wedi'i anghymhwyso rhag sefyll etholiad o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 wneud hynny rhwng 10am a 4pm yn y man a nodwyd yn yr hysbysiad
ar ba ddyddiad y gellir gwneud gwrthwynebiadau o'r fath