Dylech ystyried unrhyw wrthwynebiad sy'n dod i law yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwrthwynebu.
Cewch benderfynu bod enwebiad yn annilys am y rhesymau canlynol yn unig:1
nid yw manylion yr ymgeisydd neu'r llofnodwyr yn unol â gofynion y gyfraith
ni lofnodwyd y ffurflen fel y bo'n ofynnol
mae'r unigolyn wedi'i anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy
mae'r person yn destun gorchymyn anghymhwyso o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau 2022
Ni ddylech gynnal unrhyw ymchwiliad na chlywed unrhyw sylwadau sy'n cefnogi neu'n herio unrhyw ffaith neu ddatganiad a roddir ar y ffurflen enwebu neu'r ffurflen cyfeiriad cartref.
Rhaid i chi benderfynu ar unrhyw wrthwynebiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud ac, ym mhob achos, rhaid i chi wneud hynny o fewn 24 awr i'r enwebiadau gau.2
Dylech gyfyngu'r broses wrthwynebu i'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref.
Os byddwch yn penderfynu, o ganlyniad i wrthwynebiad, y dylai enwebiad rydych eisoes wedi penderfynu yn ei gylch fod wedi'i bennu'n annilys, rhaid i chi wneud y canlynol:
dangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd unrhyw ymgeisydd nad yw wedi'i enwebu'n ddilys mwyach
y rheswm pam nad yw wedi'i enwebu mwyach
Dylech roi gwybod i'r ymgeisydd fel y bo'n briodol.3