Torri dyletswydd swyddogol a'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol
Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), rydych yn ddarostyngedig i ddarpariaethau tor-dyletswydd swyddogol. Mae hyn yn golygu os byddwch chi neu'ch dirprwyon penodedig yn euog o unrhyw weithred neu anweithred sy'n torri dyletswydd swyddogol, heb achos rhesymol, rydych chi (a/neu hwy) yn agored i dalu dirwy anghyfyngedig os cewch eich collfarnu'n ddiannod yng Nghymru a Lloegr neu, yn yr Alban, ddirwy o hyd at £5,000.1
Mae gennych y pŵer i gymryd y cyfryw gamau ag sy'n briodol yn eich barn chi i unioni gweithredoedd neu anweithredoedd sy'n codi mewn cysylltiad â’ch swyddogaethau etholiadol ac nad ydynt yn unol â'r rheolau neu unrhyw ofynion eraill sy’n berthnasol i’r etholiad.2
Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i chi gywiro gwallau gweithdrefnol a wneir gennych chi, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddog Llywyddu (neu ddirprwyon unrhyw un o'r rhain) neu unigolyn sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau i chi/nhw.3
Nid yw'r pŵer hwn yn ymestyn i gywiro gwallau a wneir gan ymgeiswyr neu asiantiaid. I gael rhagor o wybodaeth am gamgymeriadau a wneir yn ystod y broses enwebu gan ymgeiswyr ac asiantiaid, gweler ein canllawiau ar gywiro gwallau bach.
Mae gwall gweithdrefnol yn cyfeirio at wall y mae rhywun wedi'i wneud yn ystod y broses o gynllunio neu gynnal etholiad, a allai effeithio ar broses neu ganlyniad yr etholiad. Er enghraifft, gwybodaeth anghywir ar gardiau pleidleisio neu bapurau pleidleisio, neu bapurau pleidleisio drwy'r post neu mewn gorsaf bleidleisio yn cael eu cyhoeddi mewn camgymeriad neu heb eu cyhoeddi pan y dylent fod wedi'u cyhoeddi. Nid yw'r enghreifftiau uchod yn gynhwysfawr a dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn am gymorth a chyngor os ydych yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad y gellid ei unioni drwy ddefnyddio'r pŵer hwn. Dylech hefyd geisio cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.
Pan fyddwch yn datrys gweithred neu anweithred gweithdrefnol yn llawn gan ddefnyddio eich pŵer i gywiro gwall gweithdrefnol, ni fyddwch yn euog o dorri dyletswydd swyddogol.4
Dylech gofio nad yw'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol yn eich galluogi i ailgyfrif y pleidleisiau ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi.5