Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dychwelyd a derbyn pleidleisiau post

Er mwyn i becyn pleidleisio drwy'r post fod wedi'i ddychwelyd yn briodol, rhaid eich bod wedi'i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio naill ai drwy'r post neu'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn un o swyddfeydd y cyngor yn yr ardal bleidleisio:1

Am ddiffiniad o ardal bleidleisio, gweler ein canllawiau ar benodi Swyddog Canlyniadau Ardal   

Dylech gadarnhau'r trefniadau ar gyfer dychwelyd pleidleisiau post ac unrhyw chwiliadau terfynol i'w cynnal ar y diwrnod pleidleisio â'r Post Brenhinol. 

Os bydd unigolyn yn mynd â'i bleidlais bost i orsaf bleidleisio a'i fod mewn ciw yn yr orsaf bleidleisio am 10pm ar y diwrnod pleidleisio, rhaid caniatáu iddo ddychwelyd pecyn pleidleisio drwy'r post o hyd.2   

Storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel

Dylid storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel bob amser. Mae hyn yn cynnwys pan gânt eu cludo i unrhyw sesiwn agor amlenni pleidleisiau post ac i'r lleoliadau dilysu a chyfrif.3  I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar sicrhau diogelwch papurau pleidleisio

Rhaid i unrhyw bleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd atoch, naill ai yn eich swyddfa neu yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gael eu cadw mewn blychau priodol. Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i roi'r mesurau priodol ar waith ar gyfer cadw'r blychau hyn yn ddiogel.  

Dylai'r dulliau storio a chludo y byddwch yn eu dewis eich bodloni bod y papurau pleidleisio a ddychwelwyd yn cael eu cadw'n ddiogel ac na ellir ymyrryd â hwy. 

Pecynnau a blychau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleisiau post a ddychwelwyd

Rhaid bod gennych ddau fath o flychau pleidleisio ar gyfer pleidleisiau post a ddychwelwyd:  

  • y blwch/blychau i bleidleiswyr post 
  • y blwch/blychau pleidleisio drwy'r post4

Ym mhob sesiwn agor, rhaid i chi hefyd ddarparu blychau ar gyfer y canlynol:

  • pleidleisiau a wrthodwyd 
  • datganiadau pleidleisio drwy'r post 
  • amlenni papurau pleidleisio
  • amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd

Hefyd, mae'n ofynnol i chi gael copi o'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y gellir marcio cofnodion pan gaiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu dychwelyd.5     

Y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post

Defnyddir y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post i storio pleidleisiau post a ddychwelwyd wrth iddynt aros i gael eu hagor.  

Rhaid i unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post, datganiadau pleidleisio drwy'r post neu amlenni papurau pleidleisio na chânt eu derbyn fel pecyn cyflawn hefyd gael eu rhoi yn y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post. 

Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio i bleidleiswyr post’ ac enw'r ardal bleidleisio ar bob blwch pleidleisio i bleidleiswyr post.6

Rhaid i chi gymryd y mesurau priodol i sicrhau bod y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn cael ei gadw'n ddiogel. Dylech selio'r blwch pleidleisio i bleidleiswyr post a'i storio mewn man diogel, er enghraifft mewn cwpwrdd neu ystafell dan glo, nes yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post nesaf sydd wedi'i drefnu.7  Bydd y mesurau hyn yn sicrhau bod cynnwys y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn ddiogel bob amser.  

Blychau pleidleisio drwy'r post

Defnyddir blychau pleidleisio drwy'r post i storio'r papurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi mynd drwy'r broses agor ac a gaiff eu cyfrif.  
 
Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio drwy'r post’ ac enw'r ardal bleidleisio ar bob blwch pleidleisio drwy'r post.8   
 
Rhaid storio pob blwch pleidleisio drwy'r post yn ddiogel nes y cynhelir y broses gyfrif.9  Mae gan unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn achlysur agor amlenni pleidleisiau post yr hawl i ychwanegu eu seliau at flychau pleidleisio drwy'r post os byddant yn dymuno gwneud hynny.10

Pecynnau o bleidleisiau post a gyflwynwyd yn yr orsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau Lleol

Mae unrhyw becynnau wedi'u selio sydd wedi'u labelu â'r disgrifiad - dogfennau pleidleisio drwy'r post - yn cynnwys pleidleisiau post a dderbyniwyd a gyflwynwyd yn yr orsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor. Caiff y pecynnau hyn eu trin fel pe baent yn flwch pleidleisio i bleidleiswyr post ac felly dylid eu hagor yn unol â'r broses a ddarperir yn ein canllawiau ar Agor pleidleisiau post. 

Rhaid i unrhyw becynnau wedi'u selio sydd wedi'u labelu â'r disgrifiad - dogfennau a ffurflenni pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd - gael eu cynnwys ar y rhestr o etholwyr y gwrthodwyd eu pleidlais bost pan gafodd ei chyflwyno (neu ei gadael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor. Mae rhagor o wybodaeth wedi’i nodi yn ein canllawiau ar gadw cofnod o’r pleidleisiau post hynny a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor.
 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Awst 2024