Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cynllunio ar gyfer achlysuron agor amlenni pleidleisiau post

Fel rhan o'ch gwaith cynllunio, bydd angen i chi nodi nifer y sesiynau agor amlenni pleidleisiau post y bydd eu hangen yn eich barn chi a phryd y dylid eu cynnal, a gwneud trefniadau ar eu cyfer fel sydd angen.

Bydd nifer y sesiynau agor pleidleisiau post sydd ei hangen arnoch yn dibynnu'n bennaf ar gyfanswm nifer y pleidleiswyr post sydd gennych a'ch nifer amcangyfrifedig o bleidleiswyr post. Am ragor o ystyriaethau, gweler ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer cyflawni prosesau allweddol.

Dylai eich sesiwn agor gyntaf ddigwydd o fewn ychydig ddiwrnodau i anfon y swp cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych wedi derbyn nifer mawr o bleidleisiau post a ddychwelwyd erbyn hynny, dylech gynnal sesiwn o hyd ac achub ar y cyfle i brofi eich cyfarpar ac asesu eich llifau gwaith o dan amodau gwirioneddol.  
 
Ar ôl y sesiwn gyntaf hon dylech bennu a yw'ch amcangyfrif o nifer y sesiynau agor pleidleisiau post sy'n ofynnol yn ddigonol neu a fydd angen i chi ei ddiwygio.  
 
Nid oes unrhyw reswm dros beidio ag agor pleidleisiau post ar ddydd Sadwrn, dydd Sul na gŵyl banc, ac, yn wir, efallai y byddwch am ystyried gwneud hynny, yn enwedig os bydd angen cynnal sesiynau agor pleidleisiau post ychwanegol. 

Rhaid i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd i bob ymgeisydd, yn ysgrifenedig, o amser a lleoliad pob sesiwn agor ac uchafswm nifer yr asiantiaid pleidleisio drwy'r post y gellir eu penodi i fynychu sesiwn agor pleidleisiau post.1  

Dylech hefyd gynllunio ar gyfer pryd y byddwch yn agor y pecynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd a ddanfonwyd atoch â llaw mewn gorsaf bleidleisio neu swyddfa'r cyngor.  Er nad oes gan ymgeiswyr ac asiantiaid hawl i wrthwynebu pleidlais bost a wrthodwyd i chi mewn gorsaf bleidleisio neu swyddfa'r cyngor, bydd agor cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn sicrhau bod y cofnod o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno mor gyfredol â phosib.

Pwy all fod yn bresennol pan agorir pleidleisiau post?

Mae hawl gan y bobl ganlynol i fod yn bresennol ar adeg agor pleidleisiau post:2  

  • chi a'ch staff
  • Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu a'i staff
  • ymgeiswyr
  • asiantiaid etholiad
  • is-asiantiaid
  • asiantiaid pleidleisiau post
  • Cynrychiolwyr y Comisiwn
  • arsylwyr achrededig

Dylai'r broses o agor amlenni pleidleisiau post fod yn dryloyw a dylai pawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol allu gweld y broses gyfan yn glir. Gallech rannu copïau o gynllun yr ystafell er mwyn helpu'r rhai s'n bresennol i ddilyn yr hyn sy'n digwydd, ble a phryd. 
 
Dylech roi gwybodaeth am y prosesau y byddwch yn eu dilyn i unrhyw un sy'n bresennol yn yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post. Gallwch esbonio hyn ar lafar neu ddarparu nodiadau canllaw ysgrifenedig.  
 
Dylech hefyd hysbysu ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post o'r broses i'w dilyn os byddant am wrthwynebu datganiad pleidleisio drwy'r post. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses o reoli hyn yn ein canllawiau ar y canlynol: gwirio dynodyddion personol.   

Rhaid i bawb sy'n bresennol mewn sesiwn Achlysuron agor amlenni pleidleisiau post, gan gynnwys eich staff: 

Rhaid i chi roi'r mesurau priodol ar waith er mwyn atal unrhyw unigolyn rhag gweld y bleidlais a gafodd ei bwrw ar y papurau pleidleisio. Drwy gydol y sesiynau agor, rhaid i chi gadw'r papurau pleidleisio wyneb i lawr.4  Efallai y bydd adegau pan fydd modd gweld blaen papur pleidleisio. Mae'n drosedd i unrhyw un wneud y canlynol:

  • ceisio canfod yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi/iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol  
  • cyfleu unrhyw wybodaeth o'r fath a geir yn y digwyddiadau hynny5  

Cyfarpar ar gyfer agor amlenni pleidleisiau post

Dylech ystyried pa gyfarpar arall y bydd ei angen arnoch wrth agor amlenni pleidleisiau post, a sicrhau ei fod ar gael ac yn cael ei brofi ymlaen llaw. Dylai hyn gynnwys:

  • sganwyr
  • lidiau ymestyn
  • argraffydd
  • uwchdaflunydd a sgrin
  • gliniadur
  • stamp a phad 'Gwrthodwyd'
  • deunyddiau amrywiol
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024