Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Paratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny y’u gwrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno

Rhaid i chi gadw rhestr o unrhyw etholwr y gwrthodwyd ei bleidlais bost ar yr adeg y cafodd ei chyflwyno (neu ei gadael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn un o swyddfeydd y cyngor. Er mwyn llunio'r rhestr rhaid i chi agor pob prif amlen a phob amlen papur pleidleisio ar wahân.1

Os nad yw pleidlais bost a wrthodwyd gan etholwr yn cynnwys datganiad pleidleisio drwy’r post, nid yw’n ofynnol i chi gofnodi’r gwrthodiad ar y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gânt eu cyflwyno.2

Er mwyn sicrhau bod y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno i chi mor gyfredol â phosibl, dylech nodi unrhyw becynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd a gasglwyd neu a ddosberthir i chi â llaw yn yr orsaf bleidleisio neu yn un o swyddfeydd y cyngor a diweddaru'r rhestr berthnasol cyn gynted ag sy'n ymarferol. 

Gellir gwirio'r rhestr hon hefyd i reoli ymholiadau gan bleidleiswyr post sy'n gofyn i chi gadarnhau a yw eu pleidlais bost wedi'i derbyn lle nad yw eu pleidlais bost wedi'i dangos ar y gofrestr o bleidleisiau post a farciwyd. 

Unwaith y bydd y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau wedi'i diweddaru, dylid ail-selio'r pecynnau a'u storio'n ddiogel.  

Mae'n rhaid i'r rhestr gynnwys y canlynol ar gyfer pob pleidlais bost o'r fath a wrthodwyd:3

•    enw a chyfeiriad yr etholwr (ac enw a chyfeiriad y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy)
•    rhif yr etholwr ar y gofrestr o etholwyr (a rhif y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy)
•    y rheswm/rhesymau penodedig dros wrthod y bleidlais bost a gyflwynwyd
•    arwydd a oedd y dogfennau pleidleisio drwy'r post yn cynnwys papur pleidleisio drwy'r post yr oedd ei rif yn cyfateb i rif y papur pleidleisio drwy'r post a nodir ar y datganiad pleidleisio drwy'r post, ac
•    unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â'r gwrthodiad y mae'r swyddog canlyniadau yn ei ystyried yn briodol, ond nid rhif y papur pleidleisio drwy'r post

Y rhesymau penodedig dros wrthod pleidlais bost a gyflwynwyd yw: 

•    ni chwblhawyd y ffurflen pleidleisio drwy'r post yn llawn (anghyflawn)4   neu gadawyd pleidlais bost ar ôl5
•    bod nifer y pleidleisiau post a gyflwynwyd yn fwy na'r nifer a ganiateir neu y disgwylid iddo fynd y tu hwnt i’r nifer a ganiateir6
•    cafodd y bleidlais bost ei chyflwyno gan ymgyrchydd gwleidyddol na chaniateir iddo drin y pleidleisiau post7

Mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu etholwr os yw eu pleidlais bost wedi'i chofnodi ar y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gafodd ei chyflwyno (neu ei gadael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn un o swyddfeydd y cyngor. 

Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar hysbysu etholwyr y gwrthodwyd eu pleidlais bost. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024