Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cadw cofnodion o becynnau pleidleisio drwy'r post a gaiff eu derbyn a'u hagor

Mae cadw cofnodion o bleidleisiau post a gaiff eu derbyn a'u hagor yn allweddol er mwyn cynnal trywydd archwilio clir. 
 
Mae'n ofynnol i chi gwblhau datganiad mewn perthynas â'r papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr ardal bleidleisio1  a bydd y cofnodion a gedwir gennych yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn gywir.    

Dylech sicrhau bod yr holl ffigurau sydd eu hangen ar gyfer y datganiad wedi'u cofnodi'n gywir wrth dderbyn, agor a chadarnhau pleidleisiau post. Dylech wneud y canlynol:

  • cynnal trywydd archwilio clir ar gyfer derbyn ac agor pecynnau pleidleisio drwy'r post 
  • cofnodi nifer yr amlenni a gaiff eu derbyn
  • cofnodi nifer yr amlenni a gaiff eu cyfrif 
  • sicrhau bod yr holl ffigurau sydd eu hangen er mwyn cwblhau'r datganiad mewn perthynas â phapurau pleidleisio drwy'r post yn cael eu cofnodi'n gywir
  • Cadw cofnod o gyfanswm nifer yr amlenni a dderbyniwyd yn eich swyddfa ac a roddwyd mewn blwch pleidleisio i bleidleiswyr post at ddibenion archwilio er mwyn cymharu â nifer yr amlenni a gyfrifwyd fel rhan o'r broses agor
  • dylech hefyd gwblhau cyfrif papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pob blwch pleidleisio drwy'r post - rydym wedi darparu templed      
  • paratoi rhestr yn cofnodi'r canlynol:
    • cyfanswm nifer y pleidleisiau post a roddir ym mhob blwch pleidleisio drwy'r post 
    • cyfanswm nifer y blychau pleidleisio i bleidleiswyr post
  • dylech hefyd drefnu papurau pleidleisio mewn sypiau er mwyn sicrhau y gallwch gasglu a chanslo unrhyw bapur pleidleisio penodol fel sy'n ofynnol – er enghraifft, os bu'n rhaid ailanfon yn dilyn gwall gweithdrefnol

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Chwefror 2024