Dosbarthu pleidleisiau post o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau Lleol
Dylech hysbysu'r person awdurdodedig o'r amser, y lleoliad a’r amlder ar gyfer dosbarthu'r pleidleisiau post a dderbyniwyd a gyflwynwyd iddo.
Rhaid i'r person awdurdodedig sicrhau bod y pecynnau sy'n cynnwys y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post yn cael eu cadw'n ddiogel nes iddynt gael eu dosbarthu i chi. Dylai'r dulliau o storio a chludo'r pleidleisiau post ganiatáu i chi fod yn fodlon bod y papurau pleidleisio drwy'r post yn cael eu cadw'n ddiogel ac na ellir ymyrryd â hwy.
Cyn eu dosbarthu i chi, yn gyntaf rhaid i'r person awdurdodedig roi mewn i becynnau ar wahân y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post, gyda disgrifiad o'r cynnwys wedi'i ysgrifennu ar bob pecyn. Rhaid selio pob pecyn.1
Dosbarthu pleidleisiau post a wrthodwyd o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau Lleol
Rhaid selio mewn pecyn ar wahân unrhyw bleidleisiau post a wrthodir ac unrhyw ffurflenni pleidleisiau post cysylltiedig2
a'u dosbarthu i chi3
.
Rheoli derbyn pleidleisiau post a ddosberthir o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau
Pan fyddwch yn derbyn y pecynnau o bleidleisiau post sydd wedi'u dosbarthu i swyddfeydd y cyngor, dylech sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd briodol. Rhaid storio'r pecynnau o bleidleisiau post a dderbynnir mewn cynwysyddion priodol. Mae ein canllaw ar Ddychwelyd a derbyn pleidleisiau post yn cynnwys rhagor o wybodaeth am storio pleidleisiau post a ddychwelwyd yn ddiogel.
Mae'n ofynnol i chi gadw cofnod o’r rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno yn un o swyddfeydd y cyngor. Mae ein canllawiau ar Baratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gadw'r rhestr hon. Dylech sicrhau bod y pecynnau hyn yn cael eu storio'n ddiogel nes i chi agor y pecynnau i lunio'r rhestr.
Dylech sicrhau bod y pecynnau o ffurflenni pleidleisiau post ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd yn cael eu storio'n ddiogel nes iddynt gael eu hanfon ymlaen at y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllaw ar Gyfrifoldeb am selio a chadw dogfennau etholiadol.
1. Atodlen 2, Rhan 3, paragraff 46C(2) Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012↩ Back to content at footnote 1
2. Atodlen 2, Rhan 3, paragraff 46C(2) Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012↩ Back to content at footnote 2
3. Atodlen 2, Rhan 3, paragraff 46C(4) Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012↩ Back to content at footnote 3