Yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n paratoi'r hysbysiad o ganlyniad.
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu anfon copi o'r hysbysiad atoch. Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn copi o'r hysbysiad, rhaid i chi hysbysu'r cyhoedd ohono yn eich ardal bleidleisio.1
Dylech sicrhau bod yr hysbysiadau ar gael i bawb sydd â diddordeb cyn gynted â phosibl, gan gynnwys drwy eu cyhoeddi ar wefan eich awdurdod lleol.