Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

| Argraffu'r canllawiau llawn

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Ar ôl yr etholiad, efallai y cewch geisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. O dan y Ddeddf hon, nid awdurdod cyhoeddus yw Swyddogion Canlyniadau Lleol, Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac, fel y cyfryw, maent wedi'u heithrio rhag y gofynion datgelu a osodir ganddi.1
 

Fodd bynnag, lle y bo modd, dylai Swyddogion Canlyniadau Lleol, Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddatgelu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ar yr amod bod y wybodaeth hon eisoes yn eiddo i'r cyhoedd, neu ar yr amod nad yw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cynnwys data personol. Enghraifft o ddata nad yw'n bersonol fyddai data ystadegol yn dangos cyfanswm nifer yr etholwyr a gofrestrwyd yn eich ardal neu nifer y pleidleiswyr post.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023