Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

| Argraffu'r canllawiau llawn

Adolygu'r etholiad

Ar ôl yr etholiad, dylech gynnal gwerthusiad trylwyr o'r holl brosesau a amlinellir yn eich cynllun prosiect, gan geisio adborth gan randdeiliaid priodol, a llunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd a gaiff ei defnyddio i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.

Dylai cwmpas yr adolygiad drafod pob agwedd ar yr etholiad a dylai pob proses y cynlluniwyd ar ei chyfer ac a gyflawnwyd gael ei hadolygu.

Rhan allweddol o'r adolygiad fydd ystyried y nodau a'r amcanion a nodwyd yn eich cynllun prosiect a mesur eich perfformiad yn eu herbyn.

Dylech dalu sylw arbennig i adolygu'r canlynol:

  • eich gwaith cynllunio prosiect
  • p'un a oeddech yn gallu sicrhau digon o adnoddau
  • os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, beth weithiodd yn dda a beth y gellid ei wella wrth weithio gydag ef/hi
  • os nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu hefyd, beth weithiodd yn dda a beth y gellid ei wella wrth weithio gydag ef/hi
  • sut y cafodd contractwyr eu rheoli ac a wnaethant gyflawni gwaith yn unol â'r fanyleb ofynnol
  • y cyfarpar a'r deunydd swyddfa a ddefnyddiwyd
  • recriwtio a hyfforddi staff
  • addasrwydd y lleoliadau a ddefnyddiwyd
  • y gwaith o reoli gorsafoedd pleidleisio, y broses pleidleisio absennol, a'r broses dilysu a chyfrif
  • y gwaith o brosesu ac ymdrin ag ymholiadau
  • unrhyw faterion sy'n effeithio ar ddiogelwch/uniondeb yr etholiad

Fel rhan o'r adolygiad dylech geisio adborth gan randdeiliaid priodol.

Dylech geisio adborth gan y canlynol:

  • eich staff 
  • os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, y Swyddog hwnnw.
  • os nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu a'i staff
  • etholwyr
  • ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol
  • sefydliadau lleol o bobl anabl, pobl hŷn a grwpiau ethnig lleiafrifol, a swyddogion mynediad y cyngor

Dylech ystyried gwahodd sawl aelod o staff, gan gynnwys staff gorsafoedd pleidleisio, i ddod i gael trafodaeth er mwyn ymdrin â phob agwedd ar y broses sy'n ymwneud â gorsafoedd pleidleisio, o'r sesiynau hyfforddi a briffio hyd at ddelio â sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod pleidleisio. Gallech hefyd ystyried unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a gyflwynwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.

Ar ôl i chi adolygu pob agwedd ar yr etholiad a cheisio adborth gan randdeiliaid priodol, dylech lunio dogfen yn nodi'r gwersi a ddysgwyd. Dylai'r ddogfen honno gynnwys dadansoddiad o ba arferion fu'n llwyddiannus a ble arall y gellid eu defnyddio, beth fyddech yn ei wneud eto neu'n wahanol, ac argymhellion allweddol. Dylai'r adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd gael ei ddefnyddio wedyn i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer y dyfodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023