Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Casglu data ar ôl yr etholiad
Mewn etholiadau a drefnwyd, gofynnir i chi anfon gwybodaeth a data i ni mewn perthynas â'r etholiadau.
Os ydych wedi dewis casglu data yn yr orsaf bleidleisio sy'n ymwneud ag ID Pleidleisiwr, nid oes unrhyw ofyniad i rannu'r data hwn gyda ni.
Caiff ffurflenni ar gyfer casglu gwybodaeth a data, a nodiadau canllaw ategol ar gyfer eu cwblhau, yn ogystal â ffurflen adborth y Comisiwn, eu dosbarthu ar wahân a byddant hefyd ar gael ar ein gwefan.
Datganiad o ran papurau pleidleisio drwy'r post
Rhaid i chi gwblhau datganiad o ran papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer eich ardal bleidleisio.1
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.
Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].
ail ran y cynnwys
Mae'r datganiad yn hanfodol ar gyfer cyfrifo pleidleisiau post ac am sicrhau y gall pleidleiswyr fod yn hyderus y caiff eu pleidlais ei chyfrif yn y ffordd a fwriadwyd ganddynt.
Dylai'r datganiad fod yn rhan o'r trefniadau sydd ar waith gennych i gynnal trywydd archwilio clir o'r prosesau pleidleisiau post a chyfrif.
Dylech gwblhau'r datganiad yn gywir gan ddefnyddio'r ffigurau a gofnodwyd wrth anfon, derbyn, agor a dilysu pleidleisiau post.
Cewch ragor o wybodaeth am gadw cofnodion yn ystod y broses pleidleisio drwy'r post yn ein canllawiau ar Gadw cofnodion am dderbyn ac agor pleidleisiau post.
Ble i anfon y datganiad o ran papurau pleidleisio
Rhaid i chi ddarparu copi o'r datganiad i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Comisiwn Etholiadol.
Rhaid i'r datganiad beidio â chael ei ddarparu cyn y degfed diwrnod calendr ar ôl y diwrnod pleidleisio, ond rhaid iddo gyrraedd erbyn y pumed diwrnod calendr ar hugain ar ôl y diwrnod pleidleisio fan bellaf.2 Os nad yw'r naill ddyddiad na'r llall yn ddiwrnod gwaith, caiff y cyfnod ei ymestyn i'r diwrnod gwaith nesaf.
Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweinyddu'r dogfennau a ddychwelwyd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, a dylai datganiadau gael eu hanfon i [email protected] gan ddefnyddio teitl pwnc ‘[enw'r awdurdod] – Form K return for the Secretary of State’.
Dylid anfon datganiadau i’r Comisiwn gan ddefnyddio [email protected]
Ar wahân i’r datganiad statudol ynghylch pleidleisiau post, mae’r Comisiwn yn casglu data ar bleidleisio drwy’r post drwy ein porth ar-lein mewn un cais am ddata ochr yn ochr â data etholiadol perthnasol arall, e.e. y nifer a bleidleisiodd a phleidleisiau a wrthodwyd. Bydd manylion am sut i ddarparu'r data i ni yn cael eu darparu ym Mwletin Gweinyddiaeth Etholiadol y Comisiwn.
Rhaid i chi hefyd ddarparu copi o'r datganiad wedi'i gwblhau ar yr un pryd ac i'r un person ag y byddwch yn anfon y dogfennau etholiad eraill a restrir yn ein canllawiau: Anfon dogfennau etholiadol ymlaen neu eu cadw
Bydd manylion am sut i ddarparu'r wybodaeth hon i ni yn cael eu darparu ym Mwletin Gweinyddiaeth Etholiadol y Comisiwn.
Data ID pleidleisir ar ac ar ôl y diwrnod pleidleisio
Os ydych wedi penderfynu casglu gwybodaeth y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr yn yr etholiad hwn, dylech sicrhau bod y data a gesglir ar Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr yn ddienw cyn gynted ag y bo’n ymarferol (er enghraifft, drwy ddinistrio unrhyw daflenni nodiadau cysylltiedig y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr neu drwy ddileu unrhyw fanylion etholwr a gofnodwyd ar y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr at ddiben casglu unrhyw ddata gofynnol) i sicrhau na chaiff unrhyw ddata personol ei ryddhau. Dylech hefyd sicrhau bod yr hysbysiad preifatrwydd perthnasol yn ei gwneud yn glir y gallai data personol gael ei brosesu at y diben hwn, er na fydd unrhyw ddata adnabod personol yn cael ei gyhoeddi.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar gyhoeddi'r data hwn. I gael rhagor o wybodaeth a'r gyhoeddi'r data a gasglwyd mewn gorsafoedd pleidleisio, gwelwch ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr ar mynediad i ddata/ystadegau gorsafoedd pleidleisio.
- 1. Atodlen 2, Paragraffau 55 a 59, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 2, Paragraffau 59(5) a (6), PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2