Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cynllunio ar gyfer etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ddigwyddiad pwysig sy'n achosi ei heriau penodol ei hun. Bydd eich gwaith i gynnal etholiad yn drefnus yn cael cryn sylw – ymhlith pleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol, a'r cyfryngau gan gynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r adran hon yn ceisio amlygu rhai o'r agweddau penodol ar gyd-destun sy'n berthnasol i etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Dylech sicrhau eu bod wrth wraidd pob agwedd ar eich gwaith cynllunio.

Caiff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ei ethol drwy system y cyntaf i'r felin.

Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.

Natur etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Gallai'r dirwedd wleidyddol newidiol olygu, hyd yn oed mewn mannau lle y bu mwyafrif mawr yn draddodiadol, efallai na fydd hyn yn wir mwyach. Gallai'r ffocws a'r amgylchiadau fod yn wahanol i unrhyw beth a brofwyd yn eich ardal o'r blaen.

Efallai y bydd nifer sylweddol o bleidiau gwleidyddol newydd neu lai profiadol, ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n llai cyfarwydd ag arferion a phrosesau etholiad ac y bydd angen eich cymorth arnynt i allu cymryd rhan yn effeithiol.

O ystyried yn arbennig y posibilrwydd y ceir brwydrau agos ac anodd, dylech fod yn barod i uniondeb yr etholiad hwn fod yn destun craffu. Bydd honiadau ac achosion o dwyll etholiadol nid yn unig yn cael effaith negyddol ar hyder etholwyr ac ymgyrchwyr, ond gallant hefyd gael effaith sylweddol ar eich gallu i reoli'r broses etholiadol yn effeithiol. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn gweithredu cynlluniau manwl a chadarn ar gyfer monitro a chynnal uniondeb yr etholiad yn eich ardal. Dylech weithio'n agos gyda'r heddlu lleol, gan sicrhau bod gennych linellau cyfathrebu da ar waith ar gyfer atgyfeirio unrhyw honiadau. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gynnal uniondeb yr etholiad
 

Maint a'r nifer sy'n pleidleisio

Bydd angen i sawl agwedd ar gynllunio'r etholiad adlewyrchu tybiaethau o ran y niferoedd tebygol a wnaiff bleidleisio. Bydd llunio'r fath dybiaethau ar gam cynnar o'r gwaith cynllunio yn allweddol gan mai prin y gellir newid cynlluniau ar gam hwyrach yn y broses. 

Yn aml, mae'n anodd rhagweld faint o ddiddordeb fydd mewn etholiad penodol cyn yr etholiad. Dylech gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y bydd nifer mawr yn pleidleisio ac, fel gofyniad sylfaenol, dylech dybio na fydd y nifer sy'n pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf. 

Wrth i'r etholiadau nesáu, bydd y cyd-destun yn parhau i newid wrth i'r ymgyrchoedd ddatblygu. Bydd angen i chi fod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau a allai gael effaith ar gynnal y bleidlais yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys cael cynlluniau wrth gefn cadarn i'w rhoi ar waith os bydd angen. 

Mae'n hanfodol bod darpariaeth briodol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio, gyda digon o orsafoedd a staff ar gyfer nifer yr etholwyr a neilltuwyd iddynt. Er bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i unrhyw bleidleiswyr sydd mewn ciw ar gyfer eu gorsaf bleidleisio am 10pm fwrw pleidlais1 , mae dal angen sicrhau nad yw pleidleiswyr yn wynebu oedi gormodol cyn pleidleisio a'u bod yn derbyn gwasanaeth o safon.

Mae'n debygol y bydd sylw gan y cyfryngau ar y cyfrif a datgan y canlyniadau a bydd yn bwysig rheoli disgwyliadau, nid yn unig o ran y cyfryngau ond hefyd o ran pawb sydd â diddordeb yn y canlyniadau, drwy ymgynghori ar y ffordd rydych yn bwriadu gweithredu ac wedyn nodi'n glir yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud ac erbyn pryd. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Medi 2024