Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Rheoli contractwyr a chyflenwyr

Gallwch drefnu contract allanol ar gyfer gwaith penodol sy'n angenrheidiol i gynnal yr etholiad, ond ni ellir ildio'r cyfrifoldeb am sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth. 

Peidiwch â chymryd yn ganiataol yn awtomatig mai rhoi gwaith ar gontract allanol yw eich unig opsiwn na'ch opsiwn gorau. Dylech gynnal asesiad o'r angen i drefnu contractau allanol. Dylai eich penderfyniad gael ei wneud fel rhan o asesiad o gostau, risgiau a buddiannau rhoi gwaith ar gontract allanol, o gymharu â darpariaeth fewnol gan eich staff. 

Bydd eich adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol ac ystyriaeth o'r gofynion penodol ar gyfer yr etholiad yn eich helpu i lywio eich penderfyniad ynghylch p'un a ddylid rhoi swyddogaeth neu dasg benodol ar gontract allanol ai peidio.

Os ystyrir bod gwaith ar gontract allanol yn briodol, dylai eich cynllun prosiect ymdrin â rheoli contractwyr a chyflenwyr a datblygu a rheoli contractau.

Dod o hyd i argraffwyr

Os penderfynwch fod angen i chi roi'r gwaith cynhyrchu ar gontract allanol a'ch bod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i argraffydd addas, gallwch gysylltu â Ffederasiwn Diwydiannau Argraffu Prydain am gymorth:

British Printing Industries Federation
Head Office
Unit 2 Villiers Court
Meriden Business Park
Copse Drive
Coventry, CV5 9RN
Ffôn: 0845 250 7050

www.britishprint.com
  

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2023