Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cynnal uniondeb yr etholiad

Dylai pleidleiswyr ac ymgyrchwyr fod yn hyderus o'r canlynol:

  • nad oes unrhyw achosion o dwyll yn gysylltiedig ag etholiadau 
  • y caiff y pleidleisiau a gaiff eu bwrw eu cyfrif yn y ffordd a fwriadwyd gan bleidleiswyr
  • bod y canlyniadau a gaiff eu datgan gennych yn wir ac yn gywir

Mae ymddiriedaeth a hyder yn uniondeb etholiadau yn hanfodol ond gall fod yn fregus. Bydd yn anodd i chi ailennyn ymddiriedaeth neu hyder a gollwyd o ganlyniad i honiadau o dwyll neu achosion profedig o dwyll. 

Dylech roi strategaethau effeithiol ar waith i atal twyll etholiadol o'r cychwyn cyntaf. Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i weithio gyda'r heddlu ac erlynwyr er mwyn cynnal ymchwiliadau dilynol i unrhyw honiadau y gellid eu gwneud 

Er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr ac ymgeiswyr fod yn ffyddiog y bydd pleidleisiau a gaiff eu bwrw yn cael eu cyfrif yn y ffordd a fwriadwyd gan bleidleiswyr, bydd angen i chi roi cynlluniau a phrosesau ar waith i nodi unrhyw batrymau o weithgarwch a allai fod yn arwydd o dwyll etholiadol posibl. 

Dylech drafod y dull y byddwch yn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â thwyll etholiadol â phleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid mewn sesiynau briffio ac fel rhan o unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a roddir iddynt. Dylech hefyd ystyried gwahodd yr heddlu i ddod i unrhyw sesiynau briffio o'r fath a'u gwahodd i roi unrhyw ddogfennaeth berthnasol y gallech ei chynnwys yn eich pecyn gwybodaeth. 

Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin yn benodol â'r risg o dwyll etholiadol mewn perthynas â phrosesau etholiadol. Ceir gwybodaeth am ymdrin â materion uniondeb sy'n gysylltiedig â thwyll mewn perthynas â cheisiadau cofrestru neu geisiadau pleidleisiau absennol yn y canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol: 

Troseddau

Mae nifer o droseddau etholiadol a nodir o fewn cyfraith etholiadol. Mae rhan 4 o'n canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid yn rhoi gwybodaeth am y troseddau hyn.

Delio â honiadau o droseddau ariannol

Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid ddilyn rheolau a nodir mewn deddfwriaeth ynghylch faint y gallant ei wario mewn etholiad. Rydym yn llunio canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n amlinellu rheolau ar wariant. 

Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch gwariant ar etholiadau gael eu cyfeirio at dîm Cyllid Etholiadol Plaid y Comisiwn Etholiadol drwy e-bost: [email protected] neu drwy ffonio: 0333 103 1928

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Chwefror 2024