Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dysgu o etholiadau blaenorol

Dysgu o etholiadau blaenorol

Cyn i chi ddechrau cynllunio ar gyfer yr etholiad, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal adolygiad o'r etholiad cyfatebol diwethaf.

Dylech fod wedi cynnal gwerthusiad trylwyr o'r holl brosesau a amlinellir yn eich cynllun prosiect ar gyfer yr etholiad blaenorol, ceisio adborth gan randdeiliaid priodol, a llunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Adolygu'r etholiad. 

Mae'r Comisiwn wedi darparu, fel rhan o'r templed ar gyfer cynllun prosiect, rai amcanion enghreifftiol ac adnoddau a awgrymir a fydd yn eich galluogi i fesur i ba raddau y bu'r broses o gynnal yr etholiad yn llwyddiannus. Mae'r Comisiwn hefyd wedi darparu cynllun gwerthuso fel rhan o dempled y cynllun prosiect er mwyn eich helpu gyda'r broses adolygu.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Medi 2024