Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn

Mae gan arsylwyr sydd wedi'u hachredu gan y Comisiwn yr hawl i arsylwi ar y canlynol:1

⦁    anfon a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post
⦁    y bleidlais
⦁    dilysu a chyfrif y pleidleisiau
⦁    cyfrifo'r canlyniad gan y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu

Dylai eich cynllun prosiect gynnwys prosesau i reoli ymholiadau posibl gan arsylwyr a'u helpu i fod yn bresennol yn y prosesau etholiadol y mae ganddynt hawl i fod yn bresennol ynddynt. Dylai hyn gynnwys rhoi gwybodaeth i arsylwyr ynglŷn â lleoliad ac amseriad y prosesau uchod.

Mae gan gynrychiolwyr y Comisiwn yr hawl hefyd i arsylwi ar y prosesau hyn ac, yn ogystal â hynny, mae ganddynt yr hawl i arsylwi ar eich arferion gwaith.2

Nid oes angen i arsylwyr achrededig na chynrychiolwyr y Comisiwn roi rhybudd ymlaen llaw ynghylch ble y bwriadant arsylwi, ond bydd ganddynt gerdyn adnabod â ffotograff a roddwyd gan y Comisiwn.

Canllaw cyflym i'r mathau o bobl sydd â bathodynnau arsylwi

Y mathau o bobl sydd â bathodynnau arsylwiPwy ydynt?Mynediad

Cynrychiolwyr o'r Comisiwn Etholiadol

Yr un peth ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad i'r broses o anfon pleidleisiau post, ac arferion gweithio'r Swyddog Canlyniadau Lleol, y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol
 

Arsylwyr a achredwyd gan y Comisiwn


Yr un peth ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad i'r broses o ddosbarthu pleidleisiau post

Os bydd gennych unrhyw amheuon ynglŷn â statws unigolyn penodol sy'n ceisio cael mynediad i brosesau etholiadol, gallwch edrych ar y rhestrau o arsylwyr ar wefan y Comisiwn am gadarnhad. 

Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i ystyried Cod Ymarfer y Comisiwn i arsylwyr wrth reoli presenoldeb arsylwyr.3 Bydd arsylwyr wedi cytuno i gydymffurfio â'r safonau ymddygiad a nodir yng Nghod Ymarfer y Comisiwn. Os credwch fod y Cod Ymarfer wedi cael ei dorri, rhowch wybod i dîm lleol y Comisiwn.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl arsylwyr, gweler ein canllawiau i arsylwyr etholiadol achrededig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024