Bydd y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu yn gallu cadarnhau manylion yr ymgeiswyr a fydd yn ymddangos ar y papur pleidleisio ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben.
Rhaid i enwau ymgeiswyr ymddangos ar y papur pleidleisio yn y drefn y cânt eu rhestru yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd.
Rhaid i gyfenwau ymgeiswyr ymddangos mewn priflythrennau, gan gynnwys rhoi priflythrennau ar gyfer cyfenwau sy'n dechrau â MAC neu MC a dylai'r enwau ddilyn trefn yr wyddor yn llym e.e. MABBOT, MACLEAN, MATTHEWS, MCCORMICK, MORRISON.
Lle bo ymgeisydd wedi rhestru sawl enw fel ei gyfenw, boed â chysylltnod ai peidio, dylech gopïo'r enw cyfan fel y'i darparwyd. Er enghraifft, byddai Dick Van Dyke yn ymddangos fel VAN DYKE, Dick ar y papur pleidleisio ac, o ran gosod yn nhrefn yr wyddor, byddai'r cyfenw yn dechrau â V.
Yn yr un modd, byddai Ann Smith-Jones yn SMITH-JONES, Ann ar y papur pleidleisio a byddai'n dod o dan S o ran trefn yr wyddor.
Ym mhob achos, dylech ddefnyddio'r maint ffont mwyaf posibl. Er mwyn sicrhau cysondeb, dylid defnyddio'r un maint ffont ar gyfer pob ymgeisydd ar gyfer pob llinell gyfatebol.
Cyfeiriad yr ymgeisydd
Rhaid i gyfeiriad yr ymgeisydd ymddangos yn llawn oni bai ei fod wedi gwneud cais i beidio â chyhoeddi ei gyfeiriad cartref. Os yw'r ymgeisydd (yn ystod y broses enwebu) wedi llenwi'r ffurflen cyfeiriad cartref ac yn gofyn am beidio â chyhoeddi ei gyfeiriad, dylid ysgrifennu'r geiriau Cyfeiriad yn Ardal Heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu] ar y papur pleidleisio yn lle hynny.
Arwyddluniau
Os bydd yr ymgeisydd yn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig ac wedi gwneud cais i ddefnyddio arwyddlun, efallai y byddwch yn cael copi eglurder uchel o'r arwyddlun i'w ddefnyddio wrth argraffu'r papurau pleidleisio. Fel arall, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho'r arwyddlun o'n gwefan. Dylech sicrhau bod pa gopi bynnag a ddefnyddir ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig.
Dau gentimetr sgwâr yw'r maint mwyaf y gellir ei gael ar gyfer arwyddlun ar y papur pleidleisio. Peidiwch ag addasu na chamystumio siâp yr arwyddlun er mwyn ffitio ar y papur pleidleisio. Dylech sicrhau bod yr arwyddlun ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig – er enghraifft, peidiwch ag ymestyn arwyddluniau yn siapiau sgwâr os nad ydynt wedi'u cofrestru fel delweddau sgwâr ar ein gwefan, oherwydd byddai hyn yn newid eu hymddangosiad.
1. Para 19(3)(a), Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012)↩ Back to content at footnote 1