Lluniwyd y canllawiau hyn yn seiliedig ar y gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth ganlynol (fel y'i diwygiwyd) a dylid eu darllen yn unol â hi:
Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl 1983, 1985 a 2000
Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006
Deddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009
Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Dynodi Awdurdodau Lleol) 2015
Rheoliadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Anghymhwyso) (Darpariaethau Atodol) 2012
Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Cyfrifon Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2016
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Taliadau Swyddogion Canlyniadau Lleol a Swyddogion Canlyniadau Ardaloedd yr Heddlu) 2016
Deddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadau 2013
Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) 2015
Deddf Etholiadau 2022
Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022
Rheoliadau Cymorth gyda Phleidleisio ar gyfer Pobl ag Anableddau (Diwygiadau) 2022
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Ffurflenni Cymraeg (Diwygiad) 2022
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Dynodiadau ac ati) (Diwygiad) 2022
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy'r post a Phleidleisio drwy ddirprwy etc) (Diwygiad) 2023
Dim ond y ddeddfwriaeth sy'n darparu ar gyfer y meysydd y mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â nhw a'r ddeddfwriaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd a geir yn y rhestr uchod. Rydym yn disgwyl deddfwriaeth bellach a fydd yn darparu ar gyfer diwygio rheoliadau cynnal etholiadau, dynodi Swyddogion Canlyniadau Lleol a ffioedd a thaliadau.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Mae cyfrifoldeb personol ar Swyddogion Canlyniadau Lleol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i'ch helpu i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data fel y mae'n berthnasol i'ch cyfrifoldebau am weinyddu etholiadau.
Mae'n ofynnol i chi ystyried dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a geir yn Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gyflawni eich dyletswyddau.
Mae'n rhaid i Swyddogion Canlyniadau Lleol yng Nghymru hefyd ystyried Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau yng Nghymru gael eu darparu yn yr un modd yn y Gymraeg a'r Saesneg.