Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio
Mae deall nifer y papurau pleidleisio y bydd angen delio â nhw yn ffactor hanfodol yn eich gwaith cynllunio, a bydd yn helpu i bennu’r adnoddau sydd arnoch eu hangen ar gyfer y broses ddilysu a chyfrif.
Bydd angen i chi ystyried yr amcangyfrifon canlynol:
- maint yr etholaeth
- nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd a nas defnyddiwyd
- nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd
- nifer y papurau pleidleisio amheus y mae angen eu dyfarnu
Etholwyr
Bydd modd i chi amcangyfrif nifer yr etholwyr cymwys drwy ddefnyddio'r ffigwr ar ôl cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig fel gwaelodlin, ond gan gymryd i ystyriaeth y cynnydd tebygol yn nifer y bobl a fydd yn cofrestru cyn yr etholiadau.
Gall dadansoddi'r cynnydd yn nifer yr etholwyr cyn yr etholiadau diwethaf a drefnwyd roi syniad i chi o'r cynnydd canrannol yn nifer yr etholwyr y gallwch ei ddisgwyl yn yr etholiadau.
Dylech hefyd ystyried unrhyw gynnydd a all ddeillio o weithgarwch cofrestru y bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ei wneud. Dylech allu cadw golwg ar yr amcangyfrifiad hwnnw drwy fonitro’r diweddariadau misol i’r gofrestr.
Os nad chi hefyd yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae angen i chi gysylltu â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol i gael y data cofrestru.
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, dylech gysylltu â’r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol mewn unrhyw awdurdodau lleol eraill er mwyn cael y data angenrheidiol.
Papurau pleidleisio gorsafoedd pleidleisio a ddefnyddiwyd a nas defnyddiwyd
Bydd modd i chi amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd y gallai fod gofyn i chi eu prosesu o orsafoedd pleidleisio drwy luosi nifer amcangyfrifedig yr etholwyr â nifer disgwyliedig y pleidleiswyr. Yna, gallwch nodi faint o bapurau nas defnyddiwyd y bydd hefyd angen eu dilysu, fel y nodir yn y tabl enghreifftiau canlynol:
| Etholwyr cymwys (pleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio) | Nifer disgwyliedig o bleidleiswyr (e.e. 69.1%) | Nifer y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd (e.e. 30.9%) |
|---|---|---|
| 68,175 | 47,108 | 21,067 |
Bydd y cyfrifiad uchod yn rhoi amcangyfrifiad cadarn i chi o nifer y papurau pleidleisio gorsafoedd pleidleisio y bydd angen i chi eu rheoli yn ystod y dilysu a chyfrif, ond dylech gynnwys ychydig o fesurau wrth gefn yn eich cynlluniau er mwyn sicrhau eich bod yn barod i ddelio â mwy o bleidleiswyr a/neu etholwyr na'r disgwyl.
Er ei bod yn debygol mai nifer eithaf bychan o bapurau pleidleisio a gyflwynwyd y bydd angen eu dilysu, dylech hefyd ystyried nifer y papurau pleidleisio a gyflwynwyd y bydd angen i chi eu rheoli, a chynllunio ar gyfer sut rydych am wneud hyn.
Nifer a rheoli pleidleisiau post a ddychwelwyd
Bydd cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig yn darparu gwaelodlin ar gyfer nifer y pleidleiswyr post yn yr etholaeth, a dylech ystyried y cynnydd canrannol cyn etholiadau blaenorol tebyg hefyd. Dylech hefyd ystyried unrhyw weithgarwch cofrestru a gynhelir gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn yr etholiad.
Bydd monitro pleidleisio absennol yn rheolaidd yn eich galluogi i gadw llygad ar eich amcangyfrifiad.
Gan ddefnyddio eich rhagdybiaeth ynghylch canran bleidleisio pleidleiswyr post ar gyfer yr etholaeth, gallwch wedyn gyfrifo cyfanswm nifer y papurau pleidleisio drwy'r post mae’n bosibl y bydd rhaid i chi eu prosesu. Yna, gallwch gadw golwg ar hyn drwy fonitro cynnydd dychweliadau pleidleisiau post yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio a chynnwys dadansoddiad o batrwm dychweliadau pleidleisiau post drwy ddefnyddio pleidleisiau cyfwerth blaenorol yn eich gwaith cynllunio.
Cynllunio ar gyfer prosesu pleidleisiau post a ddanfonwyd â llaw ar y diwrnod pleidleisio
Gall yr amser a gymerir i wirio pleidleisiau post a ddanfonir â llaw i orsafoedd pleidleisio arwain at oedi yn y broses ddilysu a chyfrif. Bydd angen i chi drefnu sut byddwch yn sicrhau na fydd unrhyw oedi o ganlyniad i ddisgwyl am y pleidleisiau post olaf i gyrraedd a’u prosesu. Dylai casglu pleidleisiau post yn rheolaidd yn ystod y diwrnod helpu i leihau unrhyw oedi.
Mae angen i chi benderfynu ar y trefniadau i alluogi proses ddilysu effeithlon o ran datganiadau pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys:
- a fydd gwiriadau dynodwyr pleidleisiau post yn cael eu cynnal yn y lleoliad dilysu neu yn rhywle arall? Os cynhelir y broses yn y lleoliad dilysu, bydd hyn yn debygol o fod yn fwy cyfleus i ymgeiswyr ac asiantiaid arsylwi a bydd hyn yn fwy didrafferth o safbwynt cludiant, ond mae risgiau ynghlwm â symud cyfarpar a newid cynlluniau sefydledig i wahanol leoliad.
- a oes angen symud cyfarpar neu a oes angen rhoi cyfarpar ychwanegol yn ei le i hwyluso’r broses ddilysu? Os felly, dylech sicrhau ei fod yn cael ei brofi ymlaen llaw
- a oes gennych y lefelau staffio priodol i sicrhau bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth ddilysu'r pleidleisiau post olaf?
Bydd angen i chi sicrhau nad yw eich cynlluniau i wirio dynodwyr personol ar ddatganiadau pleidleisiau post a ddychwelwyd sy'n cael eu derbyn ar y diwrnod pleidleisio yn arwain at oedi yn y broses ddilysu a chyfrif.
Pan nad chi hefyd yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol, bydd angen i chi benderfynu sut i reoli’r broses o reoli data ar gyfer dilysu dynodwyr ar bleidleisiau post a ddychwelwyd.
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, dylech drafod â’r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol mewn unrhyw awdurdodau lleol eraill ynglŷn â sut i reoli’r gwaith o rannu data ar gyfer dilysu dynodwyr ar bleidleisiau post a ddychwelwyd. Os oes angen cyfnewid data’n electronig, dylech sicrhau bod prawf o’r broses yn cael ei gynnal cyn y trosglwyddiad cyntaf a drefnwyd.
Rheoli papurau pleidleisio amheus
Bydd nifer y papurau pleidleisio amheus a all fod angen dyfarniad oherwydd nad yw’r pleidleisiwr wedi marcio’r papur pleidleisio yn unol â’r cyfarwyddiadau hefyd effeithio ar yr adnoddau a allai fod yn angenrheidiol yn y broses ddilysu a chyfrif. Drwy ddadansoddi canlyniadau etholiadau cymaradwy blaenorol, dylech allu amcangyfrif faint o bapurau pleidleisio amheus y bydd posib angen iddyn nhw brosesu yn y cyfrif.