Dim ond ar ôl i’r holl bapurau pleidleisio drwy’r post, gan gynnwys y rheiny a dderbynnir mewn gorsafoedd pleidleisio, gael eu hagor a’u prosesu, a’u bod wedi bod drwy’r broses ddilysu, y gellir cwblhau’r broses ddilysu.
Datganiad dilysu
Rhaid i chi sicrhau bod y datganiad dilysu sy’n cynnwys canlyniad dilysu pob blwch pleidleisio wedi’i gwblhau.
Ym mhob achos, rhaid i’r datganiad gynnwys cyfanswm nifer y papurau pleidleisio drwy’r post a chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a ddilyswyd ar gyfer y bleidlais.1
Dylech lofnodi’r datganiadau.
Caiff unrhyw asiant wneud copi o’r datganiad ynghylch canlyniad y dilysu ac, er mwyn hybu hyder yn y canlyniad, dylech sicrhau bod copïau ar gael i’r asiantiaid sy’n bresennol ar ôl cwblhau’r dilysu.2
Mae’r datganiad dilysu yn adnodd cyfathrebu allweddol a fydd yn helpu i sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid yn hyderus bod y prosesau yn y dilysu a’r cyfrif yn dryloyw ac y byddant yn cynhyrchu canlyniad cywir.
Etholaethau trawsffiniol
Yn achos etholaeth sy'n cynnwys mwy nag un awdurdod lleol a lle bydd y dilysu'n cael ei ddatganoli, dylech sicrhau bod proses ar waith i roi gwybod i chi am gynnwys y datganiad dilysu ar gyfer yr ardal leol.
Ar ôl cwblhau'r dilysu, os na fydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif ar unwaith, dylid rhoi papurau pleidleisio a dogfennau eraill mewn pecynnau diogel dan eu sêl eu hunain a seliau unrhyw asiantiaid sy'n bresennol ac sy'n dymuno gosod eu seliau eu hunain.
Pan mae cyfrif pleidleisiau i'w gynnal mewn lleoliad canolog sy'n lleoliad gwahanol i'r dilysu, dylid rhoi'r holl bapurau pleidleisio wedi'u dilysu mewn pecynnau diogel, fel blychau pleidleisio, i'w cludo i leoliad y cyfrif. Dylid marcio'r pecynnau hyn gydag enw ardal yr awdurdod lleol. Efallai y bydd angen i chi gysylltu ag unrhyw ddirprwyon penodedig ynghylch unrhyw drefniadau penodol ar gyfer cludo papurau pleidleisio wedi'u dilysu i leoliad y cyfrif.
Yn ogystal â hynny, dylid cynhyrchu cofnod o'r holl becynnau o bapurau pleidleisio wedi'u dilysu rydych chi'n eu cludo i leoliad y cyfrif a chynnwys pob un o'r rhain. Dylid cyflwyno'r cofnod hwn gyda'r cyfrif papurau pleidleisio, a chopi o'r datganiad terfynol ynghylch canlyniad y dilysu i leoliad y cyfrif ynghyd â'r pecynnau o bapurau pleidleisio wedi'u dilysu.