Os caiff yr etholiad ei herio, rhaid ichi gyhoeddi hysbysiad o bleidlais ar gyfer yr etholaeth, yn nodi dyddiadau ac oriau’r bleidlais.1
Rhaid i’r hysbysiad o bleidlais gael ei gynnwys yn y datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd. Rhaid iddo gael ei gyhoeddi 4pm fan bellach ar y deunawfed diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
Mae’n rhaid ichi roi copi o’r datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd, gan gynnwys yr hysbysiad o bleidlais, i bob un o’r asiantiaid etholiad cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl eu cyhoeddi.3
Dylech hefyd fod yn barod i roi copïau i unrhyw arsylwyr achrededig ar gais.