Cyhoeddi’r hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio
Rhaid ichi gyhoeddi hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio ar gyfer eich etholaeth cyn neu ar yr un adeg â’r hysbysiad o bleidlais.1
Ym mhob achos, rhaid i’r hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio nodi:
lleoliad pob gorsaf bleidleisio
disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.
Mae modd cyfuno'r hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio gyda’r datganiad ynghylch y pleidiau a phersonau a enwebwyd.2
Rhaid i’r EMB hefyd gyhoeddi lleoliadau’r gorsafoedd pleidleisio ar y platfform gwybodaeth am etholiadau. Bydd yn rhoi gwybodaeth am y data a’r fformat gofynnol (lle nad yw eisoes wedi’i gyfuno a’i gyflwyno fel rhan o’r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd). Am ragor o wybodaeth, gweler ei wefan.
Dylech fod â phrosesau prawf-wirio cadarn ar waith i sicrhau nad oes gwallau yn yr hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio.
Rhaid ichi roi copi o’r hysbysiad o leoliadau gorsafoedd pleidleisio a disgrifiadau o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno i bob un o’r asiantiaid etholiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gyhoeddi.3
Dylech hefyd fod yn barod i wneud yr hysbysiadau hyn ar gael i unrhyw arsylwr achrededig ar gais.
Cross-boundary constituencies
Mewn achos o etholaeth sy’n cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, dylech gysylltu ag unrhyw Swyddog Cofrestru Etholiadol arall yn eich etholaeth i sicrhau bod gennych y wybodaeth berthnasol i allu cynhyrchu’r hysbysiad o leoliadau gorsafoedd pleidleisio.