Os dangosir eich bod wedi'ch enwebu yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd cewch anfon anerchiad etholiadol at etholwyr yn yr etholaeth am ddim. Rhaid sicrhau mai dim ond materion etholiadol sydd ynghlwm wrth y cyfathebriad.
Cyn cyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, os byddwch yn datgan eich bod yn ymgeisydd cewch arfer yr hawl hon, ond dim ond os byddwch yn rhoi'r sicrwydd gofynnol i'r Post Brenhinol o ran talu'r gost am bostio rhag ofn nad ydych ar y datganiad fel ymgeisydd a enwebwyd i sefyll.
Cewch gludiant am ddim ar naill ai:
un cyfathrebiad etholiadol heb gyfeiriad sydd hyd at 60 gram at bob cyfeiriad post, neu
un cyfathebriad etholiadol sydd hyd at 60 gram at bob etholwr
Os ydych yn ystyried ymarfer yr hawl hon, dylech gysylltu â'r Post Brenhinol i wneud trefniadau. Rhaid cydymffurfio â thelerau ac amodau'r Post Brenhinol.