Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Camau’r broses agor pleidleisiau post

Gellir crynhoi'r broses o agor amlenni pleidleisiau post fel a ganlyn:

CamProses
1Caiff pleidleisiau post eu cludo i'r achlysur agor amlenni mewn blychau pleidleisio
2Tynnir y prif amlenni (amlen B) allan a'u cyfrif
3Cofnodir cyfanswm nifer y prif amlenni
4Rhennir prif amlenni (amlen B) rhwng timau o 
staff agor
5Mae'r staff yn agor pob prif amlen (amlen B) ac yn tynnu'r 
datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlen papur pleidleisio wedi'i selio (amlen A)
6Bydd y staff yn cadarnhau bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhif ar amlen A
7

Os bydd y rhifau'n cyfateb, bydd y staff yn cadarnhau bod yr etholwr wedi darparu llofnod a dyddiad geni (heb gadarnhau mai rhai'r etholwr ydynt ar y cam hwn)

Bydd datganiadau pleidleisio drwy'r post heb lofnod a dyddiad geni yn peri i'r bleidlais bost gael ei gwrthod

8Os bydd y datganiad neu amlen y papur pleidleisio ar goll, neu os na fydd y rhifau ar y datganiad ac amlen y papur pleidleisio yn cyfateb, rhoddir y ddogfen neu ddogfennau o'r neilltu, eu recordio a'u storio'n ddiogel mewn pecynnau
9Mae’n rhaid i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ddilysu'r dyddiadau geni a'r llofnodion a ddarparwyd ar y datganiadau
10Mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod yn fodlon bod y dyddiadau geni a’r Llofnodiadau ar y datganiadau yn cyfateb i’r rhai y cadwyd cofnod ohonynt yn flaenorol
11Ar ôl cadarnhau'r llofnodion a'r dyddiadau geni, caiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu symud o'r byrddau
12Bydd y staff yn agor amlenni'r papurau pleidleisio (amlen A) ac yn tynnu'r papur pleidleisio allan
13Bydd y staff yn cadarnhau bod y rhif ar gefn y papur pleidleisio yn cyfateb i'r rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen A)
14Caiff y papurau pleidleisio dilys (nid y pleidleisiau) eu cyfrif a chaiff y cyfanswm ei gofnodi
15Rhoddir yr holl bapurau pleidleisio dilys mewn blychau pleidleisio ac yna cânt eu storio a'u danfon i leoliad y cyfrif i'w cyfrif ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio

Paru datganiadau pleidleisio drwy'r post â phapurau pleidleisio drwy'r post

Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cadw rhestrau o unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd dros dro, sef:1

  • unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post 
  • unrhyw ddatganiadau pleidleisio drwy'r post sydd heb ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio

    Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwirio'r rhestrau hyn yn rheolaidd i sicrhau, os gellir paru unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, y caiff y pleidleisiau post hynny eu hailgyflwyno i'r broses.2
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Gorffennaf 2024