Rhaid i blaid fod ar gofrestr Prydain Fawr er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 1
Gallwch weld y rhestr lawn o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol.
Undebau llafur
Rhaid i undeb llafur fod wedi'i restru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio neu'r Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 2
Dylech edrych ar y rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio neu ar wefan y Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Cymdeithasau adeiladu
Rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 3
Dylech edrych ar y rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol.
Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
Rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 4
Dylech edrych ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Bydd angen i chi gofnodi:
enw'r rhoddwr
y cyfeiriad, fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr berthnasol 5
1. Schedule 2A, paragraph 1(6A) & paragraph 6(1) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) and section 54(2)(c) Political Parties, Elections and Referendums Act 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1