Mae’n rhaid i blaid fod ar gofrestr Prydain Fawr er mwyn iddi fod yn un a ganiateir.1
Gallwch ddod o hyd i’r rhestr gyflawn o bleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol.
Undebau llafur
Mae’n rhaid i undeb llafur fod wedi’i gofrestru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio neu’r Swyddog Ardystiad ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau ei bod yn ffynhonnell a ganiateir.2
Dylech wirio’r rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio neu ar wefan y Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Cymdeithasau adeiladu
Mae’n rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn diffiniad Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 iddi fod yn ffynhonnell a ganiateir.3
Dylech edrych ar y rhestr o’r cymdeithasau adeiladu sydd wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus Cydfuddiannol.
Cymdeithasau cyfeillgar, a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
Mae’n rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi eu cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynonellau a ganiateir.4
Dylech wirio'r Gofrestr Gyhoeddus Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Pa wybodaeth sydd yn rhaid i chi ei chofnodi?
Bydd angen i chi angen cofnodi:
enw'r rhoddwr
y cyfeiriad, fel y’i dangosir ar y gofrestr berthnasol5
1. Atodlen 6, para. 1(4) a pharagraff 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(c) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1
2. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(d) PPERA↩ Back to content at footnote 2
3. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(e) PPERA↩ Back to content at footnote 3
4. Atodlen 6, para. 6(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac adran 54(2)(g) PPERA↩ Back to content at footnote 4
5. Atodlen 6, para. 11(c) a phara. 12(2)(a) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ac Atodlen. 6, para. 2 PPERA↩ Back to content at footnote 5