| Argraffu'r canllawiau llawn

Rhadbost

Fel Swyddog Enwebu plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr neu fel ymgeisydd unigol, mae gennych hawl i gostau postio am ddim ar gyfer hyd at ddwy ohebiaeth etholiadol a anfonir at etholwyr yn yr etholaeth.1

Gellir anfon yr ohebiaeth etholiadol naill ai:2

  • heb gyfeiriad i bob cyfeiriad post
  • yn gyfeiriedig i bob etholwr

Mae’n rhaid i’r ohebiaeth etholiadol gynnwys materion sy’n berthnasol i’r etholiad yn unig ac ni all bwyso mwy na 60 gram.3

Hyd nes y cyhoeddir y datganiad o'r bobl a enwebwyd:

  • gall plaid sydd wedi cyflwyno rhestr plaid neu 
  • ymgeisydd unigol sydd wedi'i enwebu

arfer yr hawl hon i gostau postio am ddim, ond dim ond os yw'r Swyddog Enwebu (neu'r person a benodwyd i weithredu ar ei ran) neu'r ymgeisydd unigol yn rhoi gwarant sy'n ofynnol gan y Post Brenhinol ar gyfer talu cost postio yn yr achos nad yw'r blaid neu'r ymgeisydd unigol yn cael ei ddangos fel un sydd wedi'i enwebu ar y datganiad.4

Os ydych chi’n ystyried arfer yr hawl hon, dylech gysylltu â’r Post Brenhinol i wneud trefniadau. Rhaid cydymffurfio â thelerau ac amodau’r Post Brenhinol. 

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen canllawiau'r Post Brenhinol ar bost ymgeiswyr yn http://www.royalmail.com/business/manage-mail/candidate-mail
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025