Pethau i’w gwneud a phethau i beidio â’u gwneud o ran cyhoeddusrwydd ymgyrch
Mae'n rhaid i chi:
Ddefnyddio argraffnodau ar eich holl ddeunydd ymgyrchu wedi’i argraffu ac unrhyw ddeunydd ymgyrchu electronig sydd wedi’i gynllunio i gael ei argraffu’n lleol.1
Dylech sicrhau bod yr argraffnod yn glir ac yn weladwy. Gweler ein canllawiau ar ddefnyddio argraffnodau am ragor o wybodaeth.
Cydymffurfio â rheolau cynllunio sy’n ymwneud â byrddau hysbysebu a baneri mawr.2
Dylech ofyn i'r awdurdod lleol perthnasol am gyngor.
Gwneud yn siŵr eich bod yn tynnu posteri yn yr awyr agored yn brydlon ar ôl yr etholiad. Rhaid i chi wneud hyn o fewn pythefnos i’r etholiad.
Dylech:
Gynnwys argraffnod ar holl ddeunydd yr ymgyrch sydd heb ei argraffu, gan gynnwys gwefannau.
Ystyried sut i wneud eich ymgyrch yn hygyrch i bob pleidleisiwr - er enghraifft pleidleiswyr anabl, neu bleidleiswyr nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Efallai y byddwch eisiau cysylltu â grwpiau anabledd yn eich ardal leol i gael cyngor.
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
Cynhyrchu deunydd sy’n edrych fel y cardiau pleidleisio a anfonir at bleidleiswyr.3
Talu pobl i arddangos eich hysbysebion (oni bai eu bod yn arddangos hysbysebion fel rhan o’u busnes arferol).4