| Argraffu'r canllawiau llawn

Yn ystod yr ymgyrch, rhaid i chi beidio â…

  • Gwneud datganiad anwir yn fwriadol am gymeriad personol ymgeisydd arall.1
  • Talu canfaswyr. Mae canfasio yn golygu ceisio perswadio etholwr i bleidleisio o blaid neu yn erbyn ymgeisydd neu blaid benodol.2

I gael rhagor o wybodaeth am droseddau etholiadol a sut i roi gwybod am y rhain, darllenwch ein canllawiau ar droseddau.
 
Os ydych chi neu’r asiant etholiad wedi gwneud camgymeriad ac wedi gweithredu’n groes i’r rheolau, gallwch wneud cais am ryddhad o'r canlyniadau yn sgil gwneud camgymeriad. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar beth i’w wneud os ydych chi wedi gwneud camgymeriad. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mawrth 2026