Annog pobl nad ydynt ar y gofrestr etholiadol i wneud cais i gofrestru. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn pryd ar gyfer etholiad Senedd Cymru yw 12 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Gall unigolion gofrestru ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Helpu pleidleiswyr gyda gwybodaeth am bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy ac annog pleidleiswyr i wneud cais. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais1
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn yr etholiadau yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais er, mewn rhai amgylchiadau gall etholwyr wneud cais am bleidlais frys hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.2
Gall etholwr wneud cais am ddirprwy brys os yw, ar ôl 5pm, 6 diwrnod cyn y pleidleisio, wedi cael argyfwng meddygol neu wedi cael ei alw i ffwrdd ar fusnes.3
Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n cael cofrestru a phleidleisio drwy’r post a phleidleisio drwy ddirprwy ar gael ar ein gwefan.