| Argraffu'r canllawiau llawn

Yn ystod yr ymgyrch, dylech...

  • Sicrhau bod unrhyw ffurflenni cais rydych chi’n eu llunio yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol, neu bydd y ceisiadau’n cael eu gwrthod. Yn benodol, rhaid i chi sicrhau bod y meysydd llofnod a dyddiad geni ar ffurflenni cais am bleidlais bost a thrwy ddirprwy yn y fformat cywir. Dylech ddefnyddio ein ffurflenni cais am bleidlais absennol fel canllaw a dylech gysylltu â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol a allai roi ffurflenni i chi eu defnyddio.  
  • Rhoi gwybod i bleidleiswyr ddychwelyd eu ffurflenni cais wedi’u llenwi i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Ni ddylai ymgyrchwyr gasglu ceisiadau papur wedi’u llenwi gan bleidleiswyr ac ni ddylent ofyn i bleidleiswyr anfon ceisiadau wedi’u llenwi i gyfeiriadau ymgyrchwyr. Gwnewch yn siŵr bod eich cefnogwyr yn dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer Ymgyrchwyr yn etholiadau Senedd yr Alban, Senedd Cymru, cyngor yr Alban ac etholiadau lleol Cymru – bydd hyn yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle gellid cwestiynu eu gonestrwydd neu eu huniondeb.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich cefnogwyr yn gwrtais wrth ddelio ag ymgeiswyr eraill a’u cefnogwyr wrth ymgyrchu yn ogystal â mewn digwyddiadau etholiadol fel dilysu a chyfrif.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r dyddiadau cau ar gyfer penodi asiant etholiad, ac asiantiaid i fynychu sesiynau agor pleidleisiau post, gorsafoedd pleidleisio a’r cyfrif. Mae’r dyddiadau cau wedi’u nodi yn ein canllawiau ar bleidleisio drwy’r post, y diwrnod pleidleisio a’r dilysu a’r cyfrif.
  • Edrychwch ar ein canllawiau ar sut bydd agor pleidleisiau post, y broses bleidleisio a’r cyfrif yn gweithio er mwyn i chi wybod beth allwch chi ei ddisgwyl.
  • Dylech gydymffurfio ag unrhyw drefniadau diogelwch ychwanegol y gall Swyddogion Canlyniadau eu rhoi ar waith mewn digwyddiadau etholiadol, fel dilysu a chyfrif, er enghraifft ei gwneud yn ofynnol i fynychwyr ddangos ID neu gael gwirio bagiau cyn cael mynediad, a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch y safonau ymddygiad a ddisgwylir.
  • Gwiriwch fod eich systemau ar gyfer cofnodi gwariant a rhoddion yn gweithio. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar roddion a gwariant etholiadol. 
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mawrth 2026