| Argraffu'r canllawiau llawn

Methdaliad

Nid yw methdaliad ynddo'i hun yn anghymhwysiad. Os cawsoch eich dyfarnu’n fethdalwr gan lys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, ni chewch eich anghymhwyso ar y sail honno. Fodd bynnag, cewch eich anghymhwyso os ydych yn ddarostyngedig i unrhyw un o'r canlynol ar hyn o bryd:1

  • gorchymyn cyfyngu methdaliad dros dro
  • gorchymyn cyfyngu methdaliad
  • gorchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled dros dro
  • gorchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled
  • os yw eich ystâd wedi cael ei atafaelu gan lys yn yr Alban ac nad ydych wedi cael eich rhyddhau

Os gwnaethpwyd y gorchymyn yng Ngogledd Iwerddon, dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun gan fod y gyfraith yn gymhleth yn y maes hwn. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Mawrth 2026