Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Swyddi anghymwys
Mae rhai deiliaid swyddi wedi’u hanghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd a rhag sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd. 1 Mae'r rhain yn cynnwys:
- aelodau o’r lluoedd arfog arferol
- y rheini sy’n dal swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru
- y rheini sy’n dal swydd Comisiynydd Plant Cymru, Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru
- gweision sifil
- y rheini sy’n dal swydd Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil a Chomisiynwyr y Gwasanaeth Sifil
- y rheini sy’n dal swydd Comisiynydd y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol
- y rheini sy’n dal swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus
- y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol
- Aelodau, Comisiynwyr cynorthwyol a phrif weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Y Comisiynwyr Etholiadol ac aelodau staff y Comisiwn
- Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer unrhyw ardal yng Nghymru
- Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru
- Aelodau o Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd
- unrhyw un sy’n dal swydd farnwrol
- aelodau’r heddlu
- aelodau deddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r DU
- y rheini sy’n dal swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- y rheini sy’n dal swydd yr arglwydd-raglaw, is-gapten neu uchel siryf unrhyw ardal yng Nghymru
- y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu
- Swyddog Canlyniadau ar gyfer unrhyw un o etholaethau’r Senedd
- Comisiynydd y Gymraeg, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ac aelodau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg
- Comisiynydd Safonau y Senedd
- Aelodau staff Comisiwn y Senedd.
Nid yw ymgeiswyr sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Aelodau’r Senedd ac nid gan Gomisiwn y Senedd yn cael eu hanghymhwyso rhag sefyll i gael eu hethol. Fodd bynnag, gall perthnasoedd cyflogaeth fod yn gymhleth ac rydym yn cynghori unrhyw un sy’n ansicr a ydynt wedi’u hanghymhwyso i siarad ag adran Adnoddau Dynol y Senedd i gadarnhau eu trefniadau cyflogaeth a/neu ofyn am eu cyngor cyfreithiol eu hunain.
Aelodau Seneddol Tŷ’r Cyffredin yn sefyll yn etholiad Senedd Cymru2
Ni all aelodau Tŷ’r Cyffredin fod yn aelodau o’r Senedd. Er y gallant sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad Senedd Cymru, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i AS ymddiswyddo o’i sedd yn Nhŷ’r Cyffredin cyn pen wyth diwrnod calendr ar ôl cael ei ethol i’r Senedd.3
Deiliaid swyddi eraill sy’n sefyll yn etholiad Senedd Cymru
Ni chaiff deiliaid swyddi penodol fod yn Aelodau o’r Senedd. Mae'r deiliaid swyddi hyn wedi'u rhestru yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwysiad) 2025. Mae’r swyddi hyn yn cynnwys:
Aelodau Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon
Gall aelodau Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo cyn tyngu’r llw teyrngarwch (neu roi’r cadarnhad cyfatebol).
Aelodau Tŷ’r Arglwyddi
Gall aelodau Tŷ’r Arglwyddi sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt eisoes fod â chaniatâd i fod yn absennol o Dŷ’r Arglwyddi, neu fod wedi gwneud cais am ganiatâd i fod yn absennol nad yw wedi cael ei dynnu’n ôl neu ei wrthod.
Aelodau o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru
Gall aelodau cyngor sir neu fwrdeistref sirol neu gyngor cymuned sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo cyn tyngu’r llw teyrngarwch (neu roi’r cadarnhad cyfatebol).4
Caiff deiliaid swyddi penodol eraill sydd wedi’u rhestru yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwysiad) 2025 sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad Senedd Cymru, ond, os byddant yn llwyddiannus, byddai’n rhaid iddynt ymddiswyddo cyn tyngu’r llw teyrngarwch (neu wneud y cadarnhad cyfatebol).
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr ac mae rhestrau manwl o anghymwysiadau wedi’u nodi yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd), Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025.
- 1. Rhan 2, Atodlen 1A, Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (GOWA 2006) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 16 GOWA 2006 (fel y’i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 17A, GOWA 2006 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 17D, GOWA 2006 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 4