yn aml yn defnyddio cyfenw neu enw cyntaf sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i unrhyw gyfenw ac enw cyntaf arall sydd ganddo
yn defnyddio un neu fwy o enwau cyntaf neu gyfenwau mewn ffordd wahanol i'r ffordd y cânt eu nodi ar ei ffurflen enwebu
gall nodi ei enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu yn ogystal â'i enwau llawn.1
Er enghraifft, efallai ei fod yn cael ei adnabod gan ei enw cryno ‘Andy’, yn hytrach na’i enw cyntaf llawn ‘Andrew’. Yn yr achos hwnnw, gall ysgrifennu ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu os byddai’n well ganddo i’r enw hwnnw ymddangos ar y ffurflen bleidleisio.
Gall ddatgan ei fod yn defnyddio enw cyntaf neu gyfenw y mae'n ei ddefnyddio’n gyffredin, neu’r ddau.
Gall ymgeisydd hefyd ddefnyddio llythrennau cyntaf ei enwau fel rhan o’i enw a ddefnyddir yn gyffredin os yw'n cael ei adnabod yn gyffredin ganddynt.
Byddai’r enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn cael eu cynnwys:
ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd a'r hysbysiad o etholiad
ar y papur pleidleisio
ar yr hysbysiad asiant etholiad
Penderfyniadau ar enwau a ddefnyddir yn gyffredin
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn gwrthod enwau a ddefnyddir yn gyffredin sy’n debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu sy’n anweddus neu’n sarhaus.2
Os na chaniateir yr enw(au), bydd y Swyddog Canlyniadau yn ysgrifennu at yr ymgeisydd gan nodi’r rheswm dros wrthod.3
Yn yr achosion hynny, bydd gwir enw'r ymgeisydd yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny.
Os yw naill ai’r blwch enw cyntaf neu’r cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu yn cael ei adael yn wag, yna bydd gwir enw cyntaf neu gyfenw yr ymgeisydd, yn dibynnu ar ba flwch enw a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn cael ei ddefnyddio.
Mae’n drosedd rhoi datganiad anwir ar y ffurflen enwebu.4
Felly, os bydd yr ymgeisydd yn dewis rhoi enw sy’n cael ei ddefnyddio’n gyffredin, rhaid iddo sicrhau ei fod yn enw cyntaf neu’n gyfenw y mae’n ei ddefnyddio’n gyffredin.