Dylid cyflwyno papurau enwebu yn y lleoliad a nodwyd gennych chi ar yr hysbysiad etholiad. Rhaid i'r lleoliad a ddewiswch fod yn ardal yr heddlu.1
Dylai'r cyfeiriad a roddir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu fod yn fanwl gywir, a dylai gynnwys unrhyw enw neu rif ystafell. Bydd hyn yn osgoi unrhyw amheuaeth os caiff enwebiadau eu cyflwyno'n agos at y terfyn amser.
Dylech wneud y canlynol:
sicrhau mai dim ond i chi neu eich staff y caiff papurau enwebu eu cyflwyno yn y lleoliad a nodwyd
sicrhau bod y lleoliad wedi'i arwyddo'n glir o fynedfa'r adeilad
sicrhau bod y llwybr yn gwbl hygyrch neu ddarparu opsiwn amgen sydd wedi'i arwyddo'n briodol
rhoi manylion i staff awdurdod lleol eraill, megis staff derbynfa, am beth i'w wneud os bydd rhywun yn ceisio rhoi papur enwebu iddynt, gan nodi'n glir:
na ddylent ddelio â phapurau enwebu
na ddylent gynnig eu cyflwyno
y dylent, yn hytrach, gyfeirio'r sawl sy'n cyflwyno'r ffurflenni atoch chi
Rhaid i chi neu ddirprwy penodedig fod yn bresennol drwy gydol y cyfnod ar gyfer enwebiadau a'r cyfnod ar gyfer gwrthwynebiadau.2