Rhaid cyflwyno fersiwn wreiddiol pob dogfen a gwblhawyd.
Rhaid i'r ffurflen enwebu, y ffurflen cyfeiriad cartref a'r ffurflen cydsynio ag enwebiad gael eu cyflwyno'n bersonol. Ni ellir eu postio, ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall. Pan fydd yn rhaid i ddogfen gael ei chyflwyno'n bersonol, gall gael ei chyflwyno gan gludwr.
Gellir cyflwyno'r dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun yn bersonol neu drwy'r post, ond ni ellir eu ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall. Mae hyn am nad yw dogfen a gaiff ei hargraffu yn ddogfen wreiddiol – copi fyddai'r ddogfen hon.
Er mwyn i ddogfen fod yn dystysgrif (fel sy'n ofynnol ar gyfer Tystysgrif Awdurdodi), rhaid cael dull dilysu i'w gwneud yn dystysgrif. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y dilysiad ar ffurf llofnod er mwyn ardystio bod y ffeithiau a nodwyd yn wir. Gellid defnyddio sêl hefyd.
Pa ddull awdurdodi bynnag a ddefnyddir, rhaid mai'r ddogfen wreiddiol yw'r un a dderbyniwch, yn hytrach na chopi o ddogfen1
Dylech gymryd camau i gyfleu'r gofynion sy'n ymwneud â chyflwyno papurau enwebu i'r holl ddarpar ymgeiswyr ac asiantiaid, a sicrhau y caiff y gofynion hyn eu hamlygu mewn unrhyw bapurau briffio neu ganllawiau a gaiff eu llunio gennych.
Unwaith y bydd papur enwebu wedi'i gyflwyno'n ffurfiol, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau iddo (yn dibynnu ar eich pŵer i gywiro mân wallau). Ar adeg cyflwyno'r papurau yn ffurfiol dylech felly arnodi'r papur gyda'r dyddiad a'r amser cyflwyno, fel bod gennych gofnod o bryd y cyflwynwyd y papur yn ffurfiol. Os bydd ymgeisydd yn penderfynu wedi hynny ei fod am wneud unrhyw newidiadau, er enghraifft i'r disgrifiad, dylai dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl a chyflwyno papurau enwebu newydd o fewn yr amserlen statudol. Nid oes unrhyw ddarpariaeth sy'n caniatáu i lofnodwr dynnu ei lofnod yn ôl o bapur enwebu unwaith y bydd wedi'i gyflwyno.
1. Paragraffau 6 ac 19, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1