Guidance for the GLRO administering the GLA elections
Presenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu
Dim ond nifer gyfyngedig o bobl a gaiff gyflwyno'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref. Dim ond y bobl ganlynol a gaiff gyflwyno'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref i chi:1
- yr ymgeisydd
- y cynigydd neu'r eilydd fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebu
- asiant etholiadol yr ymgeisydd, ar yr amod eich bod wedi derbyn hysbysiad o'i benodiad. Gellir cyflwyno'r hysbysiad o benodiad asiant etholiad ar yr un pryd â'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy a all gyflwyno'r ffurflen cydsynio ag enwebiad, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun.
Ar ôl i ymgeisydd gyflwyno ei bapurau enwebu a'i ernes a'i fod yn sefyll ar sail enwebiad dilys, bydd hawl ganddo i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ymgeiswyr eraill a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Yn ogystal â'r ymgeisydd, bydd yr unigolion canlynol hefyd yn gallu bod yn bresennol a gwrthwynebu:
- ei asiant etholiadol
- ei gynigydd neu eilydd, fel y'i nodir ar y ffurflen enwebu
Os mai'r asiant etholiadol yw'r ymgeisydd ei hun, gall benodi rhywun arall i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad. Os bydd ymgeisydd wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd ganddo a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny.
Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg.
Caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt archwilio na gwrthwynebu.
Dylech egluro i unigolion sy'n archwilio ffurflen cyfeiriad cartref sy'n gofyn am i gyfeiriad cartref yr ymgeisydd beidio â chael ei gyhoeddi, mai dim ond yr unigolyn sy'n archwilio a ddylai ddefnyddio'r ffurflen i wneud y canlynol:
- gwrthwynebu'r enwebiad
- cyflwyno deiseb etholiadol
- gwneud cwyn i'r heddlu bod unigolyn wedi gwneud datganiad ffug
ac y gall unrhyw ddefnydd arall dorri deddfwriaeth diogelu data ac felly y gallai rhywun sy'n defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddiben arall gael ei erlyn.
Dylech gadw'r papurau enwebu yn ddiogel a gadael i'r unigolion y rhoddwyd caniatâd iddynt archwilio'r ffurflenni enwebu a chyfeiriad cartref wneud hynny hyd at y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu'r papurau enwebu.
Pan fydd y dyddiad cau ar gyfer gwrthwynebu wedi mynd heibio, dylech storio'r papurau enwebu'n ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad, ar wahân i'r ffurflen cyfeiriad cartref, y mae'n rhaid ei dinistrio'r diwrnod gwaith nesaf yn dilyn cyfnod o 21 diwrnod calendr ar ôl datgan y canlyniad.
Fodd bynnag, ni ddylid dinistrio'r ffurflen cyfeiriad cartref os oes deiseb neu achos cyfreithiol arall yn ymwneud â'r etholiad. Os felly, rhaid i chi aros tan y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i achosion o'r fath ddod i ben cyn dinistrio'r ffurflen.2
- 1. Paragraff 10, Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 64, Atodlen 3, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2