Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Dyluniad papur pleidleisio
Rhifau papurau pleidleisio
Dylai rhifau papurau pleidleisio redeg yn olynol, ond nid oes rhaid iddynt ddechrau ar ‘1’. Dylai rhifau papurau pleidleisio fod yn unigryw, ac ni ddylid eu hailddefnyddio, er enghraifft, yn yr orsaf bleidleisio, dylid rhifo papurau pleidleisio drwy'r post a phaprau pleidleisio a gyflwynwyd yn wahanol.
Y ffurf ar gyfer cefn y papur pleidleisio
Rhagnodir y ffurf ar gyfer cefn y papur pleidleisio a rhaid i chi sicrhau bod y wybodaeth ofynnol yn cael ei chynnwys ar gefn y papur pleidleisio yn y fformat a nodwyd.1 Nid oes darpariaeth ar gyfer rhoi unrhyw linellau neu farciau eraill ar gefn y papur pleidleisio.
Marc adnabod unigryw
Gall y marc adnabod unigryw gynnwys llythrennau a rhifau a gall ailadrodd rhif y papur pleidleisio gyda rhagddodiad neu ôl-ddodiad.
Gall y marc adnabod unigryw hefyd fod yn god bar ond nid oes rhaid iddo fod. Mae'n bwysig cofio nad yw'r marc adnabod unigryw yr un peth â'r marc swyddogol.
Gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu roi cyngor neu arweiniad i chi ynghylch ffurf y marc adnabod unigryw.
O ran y marc adnabod unigryw:2
- dylai fod yn unigryw i bob papur pleidleisio
- gellir ei ailddefnyddio ar gyfer yr etholiad nesaf
- rhaid iddo gael ei argraffu ar gefn y papur pleidleisio
Y marc swyddogol
Marc diogelwch yw'r marc swyddogol ac mae'n rhaid ei ychwanegu at y papur pleidleisio.
O ran y marc swyddogol:3
- gall fod yr un fath ar gyfer pob papur pleidleisio mewn etholiad neu gellir defnyddio marciau swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad, er enghraifft, un ar gyfer pleidleisiau post a'r llall ar gyfer papurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
- ni ellir ailddefnyddio'r marc swyddogol am bum mlynedd ar gyfer etholiadau i'r un ardal heddlu
Dylai'r marc fod yn unigryw. Gallai fod yn arwyddlun wedi'i argraffu neu'n farc neu'n ddyfais argraffu arbennig megis dyfrnod. Gellid hefyd dyllu'r papur pleidleisio pan gaiff ei gyflwyno os caiff offerynnau stampio eu defnyddio er mwyn creu marc swyddogol wedi'i dyllu.
Dylai fod modd gweld y marc ar flaen y papur pleidleisio heb orfod troi'r papur pleidleisio drosodd.4
Gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu eich cynghori neu ofyn i chi ddefnyddio marc swyddogol penodol, neu ei gwneud yn ofynnol iddo gynnwys nodweddion penodol.
Lliw'r papur pleidleisio
Ni phennir lliw papurau pleidleisio a'ch cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar hyn.
Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i liw papurau pleidleisio a gyflwynwyd fod yn wahanol i liw papurau pleidleisio cyffredin.5
Wrth benderfynu ar liw'r papurau pleidleisio dylech ystyried materion hygyrchedd o ran lliw a chyferbyniad. Gweler ein canllawiau dylunio arfer dda, 'Making your mark’, i gael rhagor o wybodaeth am ddewis lliwiau ar gyfer papurau pleidleisio.
Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu
Mewn rhai ardaloedd heddlu mae'r ymgeisydd a etholir i rôl CHTh hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.
Yn yr ardaloedd heddlu hyn mae'n rhaid i bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post gyfeirio at ethol Comisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu ardal heddlu [rhowch enw'r ardal heddlu].
- 1. Para 19, Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 19, Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 21(1), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Paragraffau 21(3) a (4), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Para 43(1), Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 5