Bydd y dyddiad cau ar gyfer adrodd i ni yn dibynnu ar faint rydych yn ei wario ar eich ymgyrch:
Os yw eich gwariant ar yr ymgyrch yn £250,000 neu'n is, rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen o fewn tri mis i'r etholiad1
Os yw eich gwariant ar yr ymgyrch dros £250,000, rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen ac adroddiad yr archwilydd o fewn chwe mis i'r etholiad2
Os yw'n ofynnol i chi gyflwyno datganiad cyfrifon, mae'n rhaid i chi gyflwyno hwn o fewn chwe mis i gyflwyno eich ffurflen gwariant i ni.3
Gallech gael eich cosbi os na chyflwynwch eich ffurflen neu eich datganiad cyfrifon ar amser.4
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn pa ddyddiad sy'n berthnasol i'ch ffurflen.