Mae'n rhaid i'r person cyfrifol gael pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrch o fewn terfynau amser penodol.
Cael anfonebau gan gyflenwyr
Rhaid i chi gael pob anfoneb ar gyfer eich gwariant ar ymgyrchu gan gyflenwyr o fewn 30 diwrnod i'r etholiad.1
Os na chewch anfoneb o fewn 30 diwrnod, ni ddylech ei thalu ar ôl y cyfnod hwnnw heb gael gorchymyn llys i wneud hynny. Dylech hysbysu eich cyflenwyr o hyn.
Caiff anfonebau a geir ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau heb eu talu. Rhaid i chi gofnodi hawliadau heb eu talu ar eich ffurflen gwariant.2
Talu anfonebau gan gyflenwyr
Rhaid i chi dalu eich holl anfonebau gan gyflenwyr o fewn 60 diwrnod i'r etholiad.3
Caiff anfonebau a geir ar amser ond sydd heb eu talu ar ôl y dyddiad cau hwn eu galw'n hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch. Rhaid i chi gofnodi hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch ar eich ffurflen gwariant.4
Nodwch, os bydd y dyddiad cau ar gyfer unrhyw un o'r uchod ar benwythnos neu ŵyl y banc, bydd y dyddiad cau yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf. Mae hyn wedi'i gynnwys o fewn y cyfrifiadau dyddiadau cau canlynol.5
Dyddiad olaf i
Dderbyn eich anfonebau
Talu eich anfonebau
5 Awst 2024 (6 Awst yn yr Alban)
2 Medi 2024
Caniatâd talu
Ni chewch dalu hawliadau heb eu talu na hawliadau y mae anghydfod yn eu cylch oni bai bod gorchymyn neu ddyfarniad llys ar waith sy'n eich galluogi i wneud hynny.6
Gelwir hyn yn ganiatâd talu. Mae'n drosedd gwneud taliad am hawliad heb ei dalu neu hawliad y mae anghydfod yn ei gylch heb gael caniatâd talu.7
Gallwch chi wneud cais am ganiatâd talu neu'r cyflenwr sy'n gwneud cais i'r llys perthnasol er mwyn cael dyfarniad neu orchymyn llys am daliad.