Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir a'r tu allan iddo

Dosrannu gwariant

Pan gafodd gwariant ar eitem neu weithgaredd ei achosi’n rhannol mewn cysylltiad â gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir ac yn rhannol mewn cysylltiad â gweithgaredd nad yw’n cael ei reoleiddio, y swm y mae’n rhaid ei adrodd yw’r gyfran sy’n adlewyrchu’n rhesymol y swm a wariwyd mewn cysylltiad â’r gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. 

Dim ond y gwariant ymgyrchu a reoleiddir sy’n gorfod cael ei adrodd yn y ffurflen gwariant.
 

Gwariant yn ystod y cyfnod a reoleiddir a'r tu allan iddo

Mae'n bosibl y bydd angen i chi ddosrannu eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a gynhelir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir a'r tu allan iddo. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys gwasanaeth y gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac y gwnaethoch barhau i'w ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Yn y senarios hyn, dim ond y gwariant yr aed iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy'n adroddadwy ac a fydd yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant. 

Enghraifft A: Canfasio yn ystod ac ar ôl y cyfnod a reoleiddir 

Rydych yn gwneud gwaith canfasio ddeufis cyn y cyfnod a reoleiddir a deufis ar ôl y cyfnod hwnnw. Dim ond y costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith canfasio a wneir gennych yn ystod y cyfnod a reoleiddir fydd yn cyfrif fel gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. 

Gan eich bod wedi treulio yr un faint o amser yn canfasio, er mwyn canfod y gost y mae angen i chi adrodd arni, dylech rannu cyfanswm y gwariant ar ganfasio dros y cyfnod hwn yn ei hanner. Mae'n rhaid i chi gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â chanfasio yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn eich ffurflen gwariant.

Enghraifft B: Costau gwefan cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir

Cyn i'r cyfnod a reoleiddir ddechrau, rydych yn creu ardal ar wefan eich sefydliad y gellir ystyried yn rhesymol mai ei bwriad yw dylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau nad ydynt yn cefnogi datblygiad lleol arfaethedig. Gallwch barhau i'w defnyddio a'i diweddaru yn ystod y cyfnod a reoleiddir. 

Gan mai dim ond y gwariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy'n adroddadwy, bydd angen i chi ddosrannu costau'r gwaith dylunio, gwe-letya a chostau perthnasol eraill rhwng y ddau gyfnod.

Os yw'r gwaith dylunio a chostau eraill yn £9,000, a'ch bod yn defnyddio'r ardal am gyfnod o chwe mis, y gost fesul mis fydd £9,000 ÷  6 = £1,500 y mis. 

Os yw'r cyfnod a reoleiddir yn cwmpasu'r 4 mis olaf, yna cyfanswm y costau yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw 4 × £1,500 = £6,000. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Rhagfyr 2023