Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

TAW, gorbenion a chostau staff

TAW

Rhaid cynnwys TAW wrth gyflwyno adroddiad am wariant, lle bo’n gymwys, hyd yn oed os oes modd adennill y TAW.

Gorbenion 

Rhaid cyflwyno adroddiad am orbenion y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir.  Y swm y mae’n rhaid ei gynnwys yn y ffurflen gwariant yw’r gyfran sy’n adlewyrchu’r defnydd yn rhesymol yn ystod yr ymgyrch. 

Pan nad oes cynnydd yn y gwariant ar orbenion y tu hwnt i’r gwariant arferol a achosir gan ymgyrchydd, ni fydd gwariant ar orbenion yn cael ei reoleiddio. 

Pan fydd yna gynnydd yng nghost y gorbenion a achosir gan ymgyrchydd o ganlyniad i weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir, rhaid cyflwyno adroddiad am y cynnydd hwnnw mewn gwariant.

Yn gyffredinol, y gyfran sy’n adlewyrchu’r defnydd yn rhesymol yw’r gost a achosir yn ychwanegol at y costau arferol mewn cyfnod penodol. Pan fo angen dosraniad gorbenion, mae ffigur agregedig ar gyfer pob un o’r gorbenion yn unigol yn ddigon i gyflawni’r rhwymedigaethau ynglŷn ag adroddiadau.

Gall gorbenion gynnwys eitemau fel:

  • lle mewn swyddfa
  • biliau tryn
  • darparu llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
  • ffonau symudol
  • darparu offer swyddfa o unrhyw fath 

Nid yw'r Comisiwn yn ystyried bod cost dŵr, nwy a threth gyngor yn gostau y mae angen eu hadrodd gan nad oes gan y rhain gysylltiad digon agos â’r gweithgaredd a reoleiddir.

Example

Enghraifft

Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, mae ymgyrchydd yn prynu cyfrifiaduron, offer swyddfa a ffonau ychwanegol i helpu ei dîm i gynhyrchu deunydd ymgyrchu a chanfasio. O ganlyniad i'r pryniannau hyn, mae biliau trydan a rhyngrwyd yr ymgyrchydd yn cynyddu y tu hwnt i'w wariant arferol.

Gan fod y gwariant ar orbenion wedi cynyddu y tu hwnt i wariant arferol yr ymgyrchydd o ganlyniad i weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, caiff costau'r gorbenion hyn eu rheoleiddio.

Costau staff

Costau staff

Rhaid cyflwyno adroddiad am gostau staff y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgaredd a reoleiddir.  Dim ond costau staff a achoswyd o ganlyniad i weithgaredd ymgyrchu a reoleiddir y mae angen cyflwyno adroddiad amdanynt. 

Pan fo costau staff yn gallu cael eu priodoli i weithgaredd a reoleiddir yn rhannol yn unig, rhaid i’r costau gael eu dosrannu a dim ond y gyfran a briodolir i weithgaredd a reoleiddir sy’n gorfod cael ei chynnwys yn y ffurflen gwariant. 

Pan fo angen dosrannu amser aelod o staff, mae ffigwr agregedig ar gyfer yr holl amser staff a briodolir i weithgaredd a reoleiddir yn ddigon i gyflawni’r rhwymedigaethau ynglŷn ag adroddiadau. 

Mae'r Comisiwn yn ystyried nad yw costau gofal plant aelodau staff yn dreuliau y mae angen eu hadrodd gan nad oes gan y rhain gysylltiad digon agos â’r gweithgaredd a reoleiddir.1

Enghraifft

Os oes gennych aelod o staff sy'n gweithio ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ogystal â gweithgareddau nas rheoleiddir, bydd angen i chi gyfrif cyfran o gyflog yr aelod o staff sy'n adlewyrchu'r amser a dreuliwyd yn gweithio ar y gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Enghraifft

Mae aelod o staff yn gweithio ar ymgyrch etholiadol eich sefydliad ar yr un pryd â'ch busnes o ddydd i ddydd.

Os oes gan eich sefydliad ffordd sefydledig o ddosrannu'r costau hyn ar gyfer gwaith arall eisoes, gallwch benderfynu cyfrifo'r costau yr eir iddynt gan staff mewn perthynas â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yn yr un ffordd.

Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o gyfran y costau staff y gellir ei phriodoli'n deg i'ch gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.

Er mwyn eich helpu i gynllunio eich gwariant, dylech chi a'r aelod o staff gytuno ar amcangyfrif rhesymol o amser y mae'n debygol o'i dreulio ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. Dylech ofyn i'r aelod o staff gadw cofnod o'r amser a gaiff ei dreulio mewn gwirionedd ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir a'ch diweddaru os yw'n treulio cryn dipyn yn fwy o amser na'r hyn y cytunwyd arno'n wreiddiol. Dylai hyn eich helpu i sicrhau nad ydych yn mynd uwchlaw'r terfyn gwariant.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2024