Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Beth yw gwariant tybiannol?
Weithiau gall ymgyrchwyr di-blaid ddefnyddio eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau yn eu hymgyrch nad oedd rhaid iddyn nhw wario arian arnyn nhw, am fod yr eitem neu’r gwasanaethau wedi’u darparu fel budd mewn da, am ddim, neu am ddisgownt anfasnachol.
Yr enw ar hyn yw ‘gwariant tybiannol’.
Beth yw gwariant tybiannol?
Gallwch fynd i wariant tybiannol o dan amgylchiadau pan fyddwch yn defnyddio unrhyw eitemau, nwyddau neu wasanaethau a roddwyd i chi am ddim, neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%. Os caiff unrhyw rai o'r pethau hyn eu defnyddio i'ch helpu i ymgymryd â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir, gall gwerth yr hyn rydych yn ei ddefnyddio gyfrif tuag at eich terfyn gwariant ac mae'n bosibl y bydd angen adrodd arno yn eich ffurflen gwariant. Yn unol â'r gyfraith, dim ond trafodion sy'n bodloni meini prawf penodol gaiff eu trin fel gwariant tybiannol.
Dim ond i ostyngiadau anfasnachol y mae gwariant tybiannol yn gymwys, sef gostyngiadau arbennig a roddir i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid. Mae'r rhain yn wahanol i ostyngiadau masnachol sydd ar gael i bob cwsmer, megis gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Ni chaiff eitemau, nwyddau na gwasanaethau a brynir â gostyngiadau masnachol eu trin fel gwariant tybiannol.
Pa fath o wariant a gaiff ei drin fel gwariant tybiannol?
Pa fath o wariant a gaiff ei drin fel gwariant tybiannol?
Pa fath o wariant a gaiff ei drin fel gwariant tybiannol?
Bydd eitemau neu wasanaethau sy’n cael eu defnyddio gan neu ar ran ymgyrchydd di-blaid yn cael eu trin fel gwariant tybiannol:
- os darperir yr eiddo, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau am ddim neu am ddisgownt o fwy na 10% o’r gyfradd fasnachol at ddibenion neu er budd yr ymgyrchydd di-blaid, neu yn achos trosglwyddiad eiddo os yw’n cael ei drosglwyddo am ddim neu am ddisgownt o fwy na 10% o’r gwerth ar y farchnad1
- os yw’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng yr hyn a ddarperir a’r hyn sy’n cael ei dalu gan yr ymgyrchydd di-blaid yn fwy na £2002
- os cânt eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgyrchydd di-blaid, ac
- os byddai’r treuliau wedi bod yn wariant a reolir pe baen nhw wedi cael eu hachosi gan neu ar ran yr ymgyrchydd di-blaid mewn perthynas â’r defnydd hwnnw.3
Dim ond os yw’r defnydd hwnnw’n cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgyrchydd di-blaid neu’r person cyfrifol y mae’r eitemau neu’r gwasanaethau yn cael eu defnyddio ar ran yr ymgyrchydd di-blaid.4
Rhaid i’r ymgyrchydd di-blaid gofnodi’r ddau beth a ganlyn:
- gwerth y gwariant tybiannol
- y cyfanswm a dalwyd.
Ni fydd eitemau neu wasanaethau yn cael eu trin fel gwariant tybiannol:
- os cawson nhw eu derbyn am ddisgownt o 10% neu lai, neu
- os yw gwerth y disgownt yn £200 neu lai.
Rhoddion
Rhoddion
Rhoddion
Rhaid i’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau gael eu darparu neu eu trosglwyddo’r i’r ymgyrchydd di-blaid er mwyn cael eu trin fel gwariant tybiannol.
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i’r ymgyrchydd di-blaid.
Rhaid i’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gwerth ar y farchnad neu’r gyfradd fasnachol a’r pris a dalwyd, os talwyd pris o gwbl, gael ei drin yn unol â’r cyfreithiau ar roddion i ymgyrchwyr di-blaid ac efallai y bydd angen cyflwyno adroddiad arno i’r Comisiwn.
Rhoddion
Bydd gwariant tybiannol â gwerth o fwy na £500 hefyd yn rhodd i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid. Gweler Sut i brisio rhodd? i gael rhagor o wybodaeth am roddion anariannol.
- 1. Adran 86(1)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 86(6) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 86(1)(b) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 86(1A) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4