Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau cyffredinol Senedd y DU

Prisio gwariant tybiannol ac adrodd arno

Sut rydych yn prisio gwariant tybiannol?

Er mwyn cyfrifo gwerth gwariant tybiannol, ac asesu a yw rhywbeth yn wariant tybiannol, mae'n rhaid i chi gyfrifo yn gyntaf y gyfradd fasnachol neu werth masnachol yr eitem, y nwyddau neu'r gwasanaeth a gawsoch. Mae'r gyfradd masnachol neu'r gwerth marchnadol yn golygu'r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem, y nwyddau neu'r gwasanaeth pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored.1

Yr egwyddor arweiniol ym mhob achos yw y dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o werth yr eitemau, y nwyddau neu'r gwasanaeth a gawsoch. Dylech gadw cofnod o'r modd y daethoch i'ch prisiad a chadw copïau o unrhyw ddyfynbrisiau a gewch.

Os yw'r cyflenwr yn ddarparwr masnachol, dylech ddefnyddio'r cyfraddau y mae'n eu codi ar gwsmeriaid eraill. Fel arall, os yw'r union eitem neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech ddefnyddio'r cyfraddau a godir gan ddarparwyr eraill fel arweiniad wrth brisio.

Os nad yw'r union nwyddau neu wasanaeth, neu opsiynau tebyg, ar gael ar y farchnad, dylech seilio eich asesiad ar gyfraddau marchnad opsiwn cyfatebol rhesymol.

Pa wariant tybiannol y mae angen adrodd arno?

Pan fo eitem yn cael ei thrin fel gwariant tybiannol, rhaid i ‘swm priodol’ gael ei adrodd gan yr ymgyrchydd di-blaid fel gwariant a reolir.

Pan fo’r gwariant tybiannol yn eiddo sydd wedi’i drosglwyddo i’r ymgyrchydd di-blaid, y swm priodol yw’r gyfran y mae’n rhesymol ei phriodoli i ddefnyddio’r eitem, o blith naill ai:

  • ei gwerth ar y farchnad (pan gaiff ei throsglwyddo’n rhad ac am ddim), neu
  • werth y disgownt.2

Pan fo’r gwariant tybiannol yn eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau a ddefnyddir gan yr ymgyrchydd di-blaid, y swm priodol yw’r gyfran y mae’n rhesymol ei phriodoli i ddefnyddio’r eitem, o blith naill ai:

  • y gyfradd fasnachol (pan gaiff ei darparu yn rhad ac am ddim), neu 
  • y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol am eitem neu wasanaeth a’r pris a dalwyd mewn gwirionedd gan yr ymgyrchydd di-blaid.3

Gweithio gyda phleidiau gwleidyddol cofrestredig

Gall ymgyrchwyr di-blaid hefyd weithio gyda phlaid wleidyddol gofrestredig, a darparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn rhad ac am ddim neu am ddisgownt anfasnachol.

Os bydd y blaid wleidyddol gofrestredig yn defnyddio’r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau yn ystod ei hymgyrch, rhaid trin hyn fel gwariant tybiannol ar ran y blaid wleidyddol.4  Bydd hyn hefyd yn cael ei drin fel rhodd gan yr ymgyrchydd di-blaid i’r blaid wleidyddol.5

Rhaid i’r blaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno adroddiad ar hyn a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid.

Ni fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd di-blaid a rhaid peidio â’i gofnodi yn ffurflen gwariant yr ymgyrchydd di-blaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023